Creu Mwy o Ddolydd gydag Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn chwilio am help gan y cyhoedd i greu mwy o gynefinoedd ar gyfer pryfed peillio. Y bwriad yw codi £10,000 i helpu i ddiogelu ac adfer y dolydd sy'n bodoli yn y Parc Cenedlaethol ac i weithio gyda thirfeddianwyr i greu dolydd newydd.
Yn ystod y 75 mlynedd diwethaf, mae’r DU wedi colli dros 95% o’i dolydd o flodau gwyllt, gan eu troi yn un o’n cynefinoedd mwyaf prin. Mae hefyd wedi arwain at lai o lefydd i flodau, pryfed a bywyd gwyllt eraill dyfu a ffynnu.
Dywedodd Jessica Morgan, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth: “Dydy llawer o bobl ddim yn sylweddoli bod helynt y pryfed peillio yn effeithio’n uniongyrchol ar y bwyd rydyn ni’n ei fwyta. Yn ogystal ag ychwanegu lliw at ein tirlun, mae dolydd o flodau gwyllt yn gynefinoedd hollbwysig ar gyfer pryfed peillio, sy’n hanfodol i beillio ffrwythau a llysiau.
“Gallai rhoi dim ond £5 helpu i warchod dros 400 metr sgwâr o ddolydd ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro am flwyddyn.”
Gallwch roi £5 drwy anfon ‘MOREMEADOWS’ mewn neges destun i 70085. Codir cyfradd safonol am negeseuon testun. Neu gallwch roi drwy ffonio 01646 624808 a chyfeirio at apêl Creu Mwy o Ddolydd, neu ar-lein yn www.ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru.
Cafodd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ei sefydlu i hybu’r gwaith o warchod tirwedd a bywyd gwyllt trawiadol y Parc Cenedlaethol, gwella ei nodweddion unigryw ac arbennig, yn ogystal â diogelu ei briodweddau eithriadol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth am yr Ymddiriedolaeth a sut i gyfrannu, cysylltwch â Jessica Morgan ar 01646 624808 neu anfonwch e-bost at jessicam@pembrokeshirecoast.org.uk.
Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen sydd wedi’i chofrestru gan Gomisiwn Elusennau’r DU, Rhif 1179281.