Cyllid Green Match yn rheswm arall dros fynd yn Wyllt am Goetiroedd

Posted On : 20/04/2021

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gofyn i aelodau’r cyhoedd am eu cefnogaeth rhwng 22 a 29 Ebrill, i sicrhau £2,500 o gyllid ychwanegol ar gyfer yr Apêl Gwyllt am Goetiroedd.

 

Mae’r cyfle wedi codi ar ôl i’r Ymddiriedolaeth gael ei dewis i fod yn rhan o Ymgyrch Cronfa Green Match y Big Give. Mae’r ymgyrch yn cefnogi elusennau sy’n gweithio ar faterion amgylcheddol fel rhan o’u cenhadaeth graidd. Bydd yr holl roddion cyhoeddus a wneir i’r elusennau cysylltiedig yn ystod yr ymgyrch drwy www.thebiggive.org.uk yn cael eu dyblu hyd at gyfanswm penodol gan Hyrwyddwyr Big Give, gan gynnwys The Reed Foundation, Sefydliad Garfield Weston a nifer o sefydliadau dyngarol a chyllidwyr eraill.

 

Dywedodd Jessica Morgan, Swyddog Cyllid a Grantiau yn yr Ymddiriedolaeth: “Mae Cymru yn un o’r gwledydd lleiaf coediog yn Ewrop ac mae llai na hanner ei choetiroedd yn goed llydanddail brodorol. Yn ogystal â darparu cynefinoedd, bwyd, diogelwch a chysylltiadau ar gyfer y bywyd gwyllt, mae coed yn chwarae rôl hollbwysig yn gwrthbwyso carbon a’r effaith niweidiol rydyn ni fel pobl wedi’i chael ar ein tirwedd.

 

“Bydd ymgyrch y Gronfa Green Match yn dechrau am hanner dydd ar Ddiwrnod y Ddaear (dydd Iau 22 Ebrill) ac yn gorffen wythnos yn ddiweddarach, dydd Iau 29 Ebrill am hanner dydd. Bydd unrhyw roddion a wneir i’r Apêl Gwyllt am Goetiroedd/ Wild about Woodlands drwy wefan Big Give yn ystod y dyddiadau hyn yn cael eu dyblu gan arian Hyrwyddwr yr elusen, nes bydd yr arian cyfatebol wedi dod i ben neu nes bod yr ymgyrch wedi cau, pa un bynnag fydd yn dod yn gyntaf.”

 

Lansiwyd yr Apêl Gwyllt am Goetiroedd yn 2020 gyda’r nod o brynu, plannu a diogelu dros 1,000 o goed ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r ardal gyfagos. Bydd y coed hyn yn darparu cynefinoedd newydd ar gyfer natur ac yn cynnal bioamrywiaeth. Gyda digon o gyllid, y gobaith yw datblygu coetir cymunedol newydd yn y Parc Cenedlaethol, a fydd yn agored i bawb.

 

I ddyblu eich rhodd, ewch i https://donate.thebiggive.org.uk a theipio “Wild about Woodlands” yn y blwch ‘Find a Charity’. Rhaid i bob rhodd gael ei gwneud gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd.

 

I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl Gwyllt am Goetiroedd, ewch i www.ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/gwyllt-am-goetiroedd.