Digwyddiad i gefnogwyr yn tynnu sylw at lwyddiannau elusen leol

Posted On : 25/10/2021

Roedd digwyddiad diweddar a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gyfle i gefnogwyr hen a newydd ddysgu mwy am waith yr elusen a’i effaith gadarnhaol dros y ddwy flynedd diwethaf.

Roedd digwyddiad diweddar a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gyfle i gefnogwyr hen a newydd ddysgu mwy am waith yr elusen a’i effaith gadarnhaol dros y ddwy flynedd diwethaf.

Cynhaiwyd y digwyddiad yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi, ac roedd yn cynnwys nifer o siaradwyr gwadd, a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae dros £100,000 a godwyd gan yr Ymddiriedolaeth wedi cael ei ddefnyddio ar brosiectau sydd o fudd i bobl a llefydd yn y Parc Cenedlaethol.

Siaradodd Swyddog Bioamrywiaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Sarah Mellor, am fynd i’r afael â rhywogaethau estron goresgynnol gan ddefnyddio dull dalgylch afon. Bellach yn ei drydedd flwyddyn, mae cynnydd dramatig wedi’i wneud ac mae llawer o ardaloedd bellach yn cael eu hystyried fel ardaloedd sydd dan reolaeth.

Rhannodd Bryony Rees, Cydlynydd Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro, fideo gwych a gafodd ei greu gan un o’r ysgolion a gafodd fudd o’r prosiect Ysgolion Awyr Agored wrth iddi gynnal adolygiad o waith addysg awyr agored yn y sir.

Cafwyd sgwrs hefyd gan Vicky Squire, Warden Pryfed Peillio Awdurdod y Parc Cenedlaethol, a oedd yn canolbwyntio ar y prosiect Pobl, Llwybrau a Phryfed Peillio. O ganlyniad i gefnogaeth a chodi arian gan yr Ymddiriedolaeth, mae’r prosiect peilot, sy’n rhoi arferion sy’n ystyriol o bryfed peillio wrth galon rheoli Llwybr yr Arfordir, bellach wedi cael ei ymestyn ar hyd y 186 milltir o Lwybr Arfordir Sir Benfro.

Gwahoddwyd gwesteion hefyd i weld yr arddangosfa bresennol yn Oriel y Parc gan Mike Perry,Tir/Mor.

Y gobaith yw y bydd digwyddiad tebyg yn cael ei drefnu ar gyfer 2022.

Hoffai’r Elusen ddiolch i’r tîm yn Oriel y Parc am gynnal y digwyddiad yn ogystal â diolch i gaffi’r safle, Caffi Pilgrims, am ddarparu lluniaeth blasus.