Diwrnod Afalau yn Sain Ffraid yn fuddiol i ddisgyblion lleol

Posted On : 11/11/2022

Yn ddiweddar, cafodd disgyblion ysgol gynradd o bum ysgol yn Sir Benfro gyfle i ddarganfod rhyfeddodau’r berllan yn yr hydref diolch i’r prosiect Gwreiddiau/Roots.

Yn ystod y sesiwn am ddim, cyflwynodd staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro y gwahanol fathau o ffrwythau yn amgylchedd cysgodol yr ardd furiog yn Sain Ffraid.

Dywedodd Tom Bean, Parcmon Addysg Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Fe ddysgodd y disgyblion am y gwahanol fathau o afalau sydd ar gael a’r gwahanol siapiau, lliwiau a blasau.

“Fe wnaethon nhw hefyd ddarganfod ffrwythau anarferol fel afalau cwins a dysgu am rai o’r straeon diddorol y tu ôl iddyn nhw, fel mwyar Mair a phrosiect anffodus y Brenin James I i wneud trons sidan ei hun.

“Yn ogystal â blasu afalau ac yfed sudd wedi’i wasgu’n ffres, aeth y disgyblion ati i greu cerflun o ffrwythau sy’n edrych yn union fel mochyn a chreu cerflun gan ddefnyddio clai hefyd. Roedd rhai hyd yn oed wedi cael amser i ymweld â’r traeth hyfryd.”

Wrth sôn am ymweliad y berllan fel rhan o brosiect ehangach Gwreiddiau/Roots, dywedodd Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus South Hook LNG, Mariam Dalziel: “Rydyn ni mor falch ein bod yn cefnogi prosiect sy’n rhoi cymaint o gyfle i ddysgu’n greadigol yn yr awyr agored.

“Mae’r ymweliad â’r berllan yn un o nifer o brofiadau sy’n cael eu darparu drwy brosiect Gwreiddiau/Roots, sy’n galluogi plant ifanc yn ein cymuned i gael gwell dealltwriaeth o’r amgylchedd o’u cwmpas.”

Mae Gwreiddiau/Roots yn brosiect partneriaeth a sefydlwyd gan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyda chymorth ariannol South Hook LNG. Mae’n darparu sesiynau dysgu difyr yn yr awyr agored a’i nod yw meithrin gwell dealltwriaeth o gynhyrchu bwyd yn lleol a helpu i ddatblygu mannau awyr agored.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect Gwreiddiau/Roots neu i drafod sut gall yr Awdurdod Parc Cenedlaethol helpu eich ysgol chi, cysylltwch â Tom Bean drwy 07976945245 neu anfon e-bost at tomjb@pembrokeshirecoast.org.uk.

 

I gael gwybod mwy am Ymddiriedolaeth Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i www.ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru.