Gwaith tîm o ymddiriedolaethau elusennol yn rhoi hwb dwbl i adnewyddu pwll Corsydd Teifi

Posted On : 05/10/2022

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Chyfeillion Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi ymuno am y tro cyntaf erioed i ariannu platfform trochi mewn pyllau yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Cymru yng Nghilgerran.

Daeth y ddau gorff elusennol at ei gilydd i ddarparu cymorth ariannol pan ddaeth i’r amlwg bod gweithgareddau trochi mewn pyllau, sydd wedi bod yn nodwedd reolaidd yn ystod yr haf yng Ngwarchodfa Natur Corsydd Teifi, wedi cael eu hatal ar ôl i’r platfform 19 mlwydd oed gyrraedd diwedd ei oes.

Ar ôl tynnu’r strwythur gwreiddiol, tynnwyd llaid o’r pwll a rhoddwyd leinin newydd iddo, cyn gosod un newydd yn ei le. Mae’r platfform trochi newydd tua 10m o hyd ac 1.2m o led ac mae’n cynnwys is-ffrâm blastig wedi’i ailgylchu gyda decin pren gwrth-lithro ar ei ben.

Dywedodd Nathan Walton, Swyddog Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Benfro a Rheolwr Gwarchodfeydd De-orllewin Cymru: “Mae’r Ymddiriedolaeth Natur yn ddiolchgar iawn am y cymorth ariannol y mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Chyfeillion y Parc Cenedlaethol wedi’i roi i osod platfform trochi mewn pyllau yng Ngwarchodfa Natur Corsydd Teifi.

“Mae’r warchodfa yn gartref i Ganolfan Bywyd Gwyllt Cymru sy’n cynnal nifer o ddigwyddiadau bywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn, ac mae trochi mewn pyllau yn un ohonynt. Mae’r platfform newydd nawr yn caniatáu profiad trochi mwy diogel i ymwelwyr ac ysgolion, ac yn rhoi cyfle i ymgysylltu ac addysgu y bobl sy’n bresennol ar fywyd gwyllt dyfrol.”

Corsydd Teifi yw un o’r safleoedd gwlyptir gorau yng Nghymru ac mae’n cynnal amrywiaeth o gynefinoedd, gan gynnwys tir pori agored a gwrychoedd coediog, ffen gwern a helyg, cors dŵr croyw gyda phyllau agored, gwelyau cyrs a chloddiau llaid llanw. Mae’r Ganolfan Ymwelwyr, gan gynnwys Caffi a Siop Anrhegion Glasshouse, ar agor bum niwrnod yr wythnos (dydd Mercher – dydd Sul) rhwng 10am a 4pm. I gael gwybod mwy, ewch i https://www.welshwildlife.org/cy/visit/welsh-wildlife-centre-teifi-marshes.

Mae rhagor o wybodaeth am Gyfeillion Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gael yn www.fpcnp.org.uk a https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/.