Gwell mynediad at ddysgu yn yr awyr agored ledled y sir

Posted On : 30/09/2019

Mae disgyblion ledled Sir Benfro yn mynd i elwa ar fwy o fynediad at ddysgu yn yr awyr agored diolch i grant o £16,000 a ddyfarnwyd yn ddiweddar i Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gan Loteri Cod Post y Bobl. 

Fel rhan o bartneriaeth rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro, bydd yr arian yn golygu bod mwy o blant yn Sir Benfro yn gallu manteisio ar gyfleoedd i ddysgu yn yr awyr agored sy’n cyd-fynd â Chwricwlwm Cymru newydd. Bydd yr arian hefyd yn golygu bod cydlynydd yn gallu gweithio gydag ysgolion a Phartneriaeth Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro.

Mae manteision treulio amser yn yr awyr agored i wella iechyd a lles yn cael eu derbyn yn eang, ond mae ymchwil diweddar gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi dangos bod plant yn treulio llai na hanner yr amser yr oedd eu rhieni’n ei dreulio yn chwarae tu allan.

Dywedodd Tom Bean, Swyddog Addysg ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Bydd yr arian yn helpu athrawon a disgyblion i wneud y mwyaf o gyfleoedd i ddysgu yn yr awyr agored yn Sir Benfro.

“Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cynnig rhai o’r golygfeydd mwyaf trawiadol a bywyd gwyllt amrywiol ym Mhrydain, gan gynnwys gwarchodfeydd natur, daeareg ac archaeoleg sy’n bwysig yn rhyngwladol. Mae digon o gyfleoedd ac adnoddau ar gyfer profiadau dysgu pwerus yn y dirwedd unigryw hon.

“Rydym yn falch o chwarae rhan allweddol yn rhwydwaith o athrawon a phartneriaid strategol Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro. Bydd yr arian yn caniatáu i ni weithio gyda’n gilydd i gynnig profiadau dysgu cyfoethog, creu adnoddau newydd sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm, a rhoi offer a hyfforddiant angenrheidiol i athrawon ddefnyddio’r manteision mae’r ystafell ddosbarth yn yr awyr agored yn eu cynnig.

“Mae’r rhwydwaith wedi bod yn adeiladol iawn yma yn Sir Benfro ac mae hefyd yn darparu model i weithio mewn rhannau eraill o Gymru a thu hwnt.”

Nod Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw gwarchod y Parc Cenedlaethol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol drwy wella’r ffordd mae’r tir yn cael ei reoli ar gyfer bywyd gwyllt, gweithio i ateb heriau newid yn yr hinsawdd, tynnu sylw at hanes a diwylliant yr ardal, a sicrhau bod y Parc yn hygyrch i bawb.

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi’i chofrestru gyda’r Rheoleiddiwr Codi Arian a rhif cofrestru’r elusen yw 1179281.

I gael rhagor o wybodaeth am yr elusen a sut y gallwch chi gefnogi Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ewch i www.ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru neu ffoniwch 01646 624808.