Prosiect cynhyrchu bwyd a chynnyrch lleol yn mynd o nerth i nerth yn ei ail flwyddyn

Posted On : 03/09/2021

Er gwaethaf y sialensiau sydd wedi wynebu disgyblion dros y flwyddyn ddiwethaf, mae plant lleol wedi parhau i groesawu ffyrdd newydd o ddysgu tu allan, diolch i gynllun wedi’i ariannu gan South Hook LNG ac Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac sy’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Er gwaethaf y sialensiau sydd wedi wynebu disgyblion dros y flwyddyn ddiwethaf, mae plant lleol wedi parhau i groesawu ffyrdd newydd o ddysgu tu allan, diolch i gynllun wedi’i ariannu gan South Hook LNG ac Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac sy’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

 

Sefydlwyd y prosiect Gwreiddiau/The Roots ar ddechrau 2020 gyda’r bwriad o gryfhau cysylltiadau rhwng ysgolion a chynhyrchwyr bwyd lleol a chodi ymwybyddiaeth o ran sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu. Ers hynny, mae’r prosiect wedi mynd o nerth i nerth, gan hwyluso amrediad o gyfleoedd dysgu tu allan mewn sawl ysgol gynradd yn ysgolion ardal Clwstwr Aberdaugleddau.

 

Roedd gwarchod dolydd yn thema bwysig yn Ysgol G.G Johnston yn ystod tymor yr haf. Wrth ymweld â dôl ar fferm leol, dysgodd y plant sgiliau adnabod planhigion a pheillwyr yn ogystal â chwrdd â Julie Garlick Swyddog Cadwraeth y Parc Cenedlaethol, a siaradodd am ei rôl yn cysylltu perchnogion tir gyda gwaith cadwraeth. Ar ôl rhoi rhai sgiliau byw yn y gwyllt ar waith er mwyn iddynt allu tostio malws melys dros dân agored, dychwelodd y plant i’r ysgol yn ferw o syniadau.

 

Mae cynllun rheoli dolydd yn ei le nawr ar gyfer cae yn yr ysgol, a gobeithir casglu data ohono er mwyn cadw cofnod o effaith rheoli cadwraeth dros amser. Mae datblygiadau eraill yn gysylltiedig â’r prosiect Gwreiddiau yn Ysgol G.G Johnston yn cynnwys codi twnnel tyfu, plannu tatws a llysiau eraill mewn llain rhandir a phrynu    cyfarpar newydd ar gyfer yr ardal byw yn y gwyllt.

 

Yn Ysgol Gymunedol Neyland mae’r prosiect Gwreiddiau wedi galluogi athrawon a disgyblion i barhau â’u haddysg tu allan, gyda hyfforddiant yn cael ei hwyluso gan Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro ac yn cael ei ddarparu gan Tir Coed. Mae gwelyau planhigion wedi cael eu gosod, eu llenwi a’u plannu yn rhan o ardal dyfu’r ysgol.

 

Mae disgyblion yn Ysgol Gelliswick hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan y cynllun er mwyn datblygu ardaloedd tyfu, ac yn edrych ar rai syniadau diddorol i wau adnoddau a lleoliadau naturiol gerllaw i mewn i’r Cwricwlwm.

 

Mae ysgolion eraill sydd wedi cael budd o’r prosiect Gwreiddiau yn cynnwys Ysgol Gatholig Sant Ffransis yn Aberdaugleddau, sy’n edrych ar greu gardd berlysiau newydd ar fuarth yr ysgol; ac Ysgol y Glannau, sydd wedi symud ymlaen o blannu perllannau i aildrefnu ardaloedd tyfu’r ysgol a dysgu mwy am wenyn gyda Vicky Sewell, Warden y Parc Cenedlaethol.

 

Yn ôl Nichola Couceiro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Mae hi wedi bod yn bleser bod yn rhan o’r bartneriaeth gyda South Hook LNG am yr ail flwyddyn a gweld y prosiect Gwreiddiau yn dechrau ffynnu a chael profiad uniongyrchol o’r mwynhad a’r budd mae’r plant ei gael o fod yn rhan o’r cynllun.”

 

“Hoffen ni ddiolch i staff y Parc Cenedlaethol, athrawon ac aelodau o’r gymuned sydd wedi ein caniatáu i ddarparu profiadau dysgu tu allan mor werthfawr, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld effaith y prosiect mewn blynyddoedd i ddod.”

 

I ddysgu mwy am raglenni dysgu tu allan sydd ar gael i ysgolion, ewch i https://www.arfordirpenfro.cymru/i-ysgolion-ac-addysgwyr/.