Prosiect Gwreiddiau yn medi cynhaeaf euraid

Posted On : 09/08/2022

Mae partneriaeth addysg sydd â’r nod o helpu plant i archwilio amgylchedd naturiol, cynnyrch a rhwydweithiau bwyd Sir Benfro yn mwynhau llwyddiant lliwgar iawn, diolch i brosiect creu dolydd mewn ysgol gynradd leol.

Mae gan bob dôl stori i’w hadrodd, ac mae gwreiddiau stori dôl flodau gwyllt Johnston yn ymestyn i 2019, pan benderfynodd yr ysgol gymryd rhan ym mhrosiect Gwreiddiau.

Sefydlwyd Gwreiddiau, sef prosiect partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a chymorth ariannol South Hook LNG, i ddarparu sesiynau dysgu awyr agored diddorol, meithrin gwell dealltwriaeth o gynhyrchu bwyd lleol a darparu cymorth i ddatblygu mannau awyr agored.

Dywedodd Elsa Davies, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Gyda’r blynyddoedd diwethaf wedi peri i ysgolion orfod cofleidio ffyrdd newydd o ddysgu, ni allai’r bartneriaeth Gwreiddiau wedi dod ar amser gwell. Ers ei sefydlu, mae cannoedd o blant lleol wedi cysylltu â’r amgylchedd, yn ogystal â busnesau a chymunedau lleol.

“Sefydlwyd y ddôl flodau gwyllt fechan yn Ysgol Johnston gyda chefnogaeth gan bartneriaeth Gwreiddiau, ynghyd ag arbenigedd Tom Bean, Parcmon Addysg y Parc Cenedlaethol. Ers hynny, mae wedi ffynnu ac wedi tyfu i fod yn gynrychiolaeth berffaith o bopeth yr oedd y prosiect yn gobeithio ei gyflawni o ran adfywio, bioamrywiaeth a chysylltedd â byd natur a’r gymuned.”

Yn gynharach yr haf hwn, gwahoddwyd cynrychiolwyr o South Hook LNG ac Ymddiriedolaeth y Parc Cenedlaethol i fynd gyda disgyblion Blwyddyn 4 o Johnston ar ymweliad â fferm yn Hook sydd â dôl ysblennydd yn ymestyn i lawr at Afon Cleddau. Ar ôl dysgu sut i adnabod gwahanol rywogaethau o ddolydd a sut gall cribell felen gynnal cynefin iach, aeth y disgyblion â hadau yn ôl gyda nhw i blannu yn eu dolydd blodau gwyllt eu hunain.

Nawr bod y planhigyn wedi sefydlu, disgwylir y bydd y ddôl yn Ysgol Johnston yn mynd o nerth i nerth, gan ddarparu cynefin pwysig ar gyfer pryfed peillio a gwledd ar gyfer synhwyrau dynol yn ystod misoedd yr haf.

Wrth i’r bartneriaeth Gwreiddiau fynd yn ei blaen, bydd astudiaethau cynefin a chreu a chynnal amgylcheddau sy’n tyfu ar dir ysgolion yn parhau i fod yn feysydd ffocws allweddol, gyda chynlluniau i gryfhau ymwybyddiaeth ymhellach am gynhyrchwyr lleol yma yn Sir Benfro.

“Rydyn ni’n falch o fod wedi bod yn cefnogi’r prosiect hwn ers ei sefydlu, gan weithio gydag Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i roi cyfleoedd a phrofiadau newydd i blant ddysgu am eu hamgylchedd a rôl hanfodol rhwydweithiau bwyd a busnesau lleol ar draws ein sir,” meddai Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus South Hook LNG, Mariam Dalziel

“Mae addysg yn rhan bwysig o’r ffordd rydyn ni’n ymgysylltu â chymuned Sir Benfro, ac mae llwyddiant parhaus prosiect Gwreiddiau yn brawf o fanteision amlwg dysgu yn yr awyr agored i gynifer o bobl ifanc.”

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen gofrestredig, a sefydlwyd i helpu i ofalu am y Parc Cenedlaethol a’i ddiogelu. Mae’r bartneriaeth â South Hook LNG yn dangos cyd-ddealltwriaeth o ba mor hanfodol yw addysgu pobl ifanc am bwysigrwydd yr amgylchedd naturiol.

I ddysgu mwy am waith yr Ymddiriedolaeth, ewch i https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/.