Wythnos Ymddiriedolwyr 2021

Posted On : 03/11/2021

Mae Wythnos Ymddiriedolwyr yn ddigwyddiad blynyddol sy’n arddangos y gwaith gwych a wneir gan ymddiriedolwyr ac yn amlygu cyfleoedd i bobl o bob math gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth. Cwrdd â’n Cadeirydd Elusen Elsa Davies.

 

  1. Allwch chi ddweud gair neu ddau wrthym am eich cefndir?

Ar ôl gweithio am flynyddoedd lawer yn Llundain, hyfryd oedd dychwelyd i fyw yng Nghymru. Mae gwreiddiau fy nheulu yn Sir Benfro yn mynd yn ôl cyn belled â 1640 a thu hwnt ac wedi’u sodro’n ddwfn yn ardal Arberth / Llandysilio yng ngogledd y sir. Wrth chwilio am gartref yng Nghymru, nodwedd allweddol oedd bod o fewn cyrraedd hwylus i Gapel Rhydwilym sydd â hanes mor rhyfeddol a rhamantus.

 

  1. Beth wnaeth eich denu i ddod yn ymddiriedolwr yn Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro?

Pan ddarllenais am y bwriad i sefydlu Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro roedd dau air wedi dal fy llygad. Y cyntaf oedd ‘Sir Benfro’, sir sy’n un o drysorau mwyaf gwerthfawr Cymru ac yn un sy’n golygu cymaint i mi. Yr ail, er syndod, oedd ‘codi arian’, gan fy mod yn mwynhau’r her o gynnig cyfleoedd i bobl a rhoddwyr grantiau wneud gweithredoedd da, ac annog cwmnïau i fod yn ddinasyddion corfforaethol da.

 

  1. Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am fod yn Ymddiriedolwr?

Ar wahân i’r pleser o weithio gyda thîm o ymddiriedolwyr hynod frwd a thalentog, hyfrydwch pur yw gweld y gwahaniaeth y mae prosiectau a ariennir gan yr Ymddiriedolaeth yn ei wneud i ymdrechion wardeniaid a staff ymroddedig Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae eu dyheadau ar gyfer Sir Benfro yn eithriadol, ac mae gwybod y gall yr Ymddiriedolaeth eu helpu i gyflawni y tu hwnt i’w targedau drwy garedigrwydd eraill yn rhoi boddhad digamsyniol.

 

  1. Beth yw’r peth pwysicaf y dymunwch i’r cyhoedd wybod am Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro?

 

Wrth i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ddathlu ei ben-blwydd yn 70 y flwyddyn nesaf, gobeithio y bydd pobl nid yn unig yn mwynhau edrych yn ôl ar lwyddiannau di-rif y Parc ond y byddant hefyd yn edrych ymlaen at ddyfodol o dwf a ffyniant …… ac y bydd pawb sy’n wirioneddol garu ac yn poeni am Sir Benfro yn cefnogi’r ymddiriedolaeth i gyflawni hynny.  Gwaddol werthfawr i ymwelwyr ac i’r trigolion fel ei gilydd yn y blynyddoedd sydd i ddod!