Ymddiriedolaeth Arfordir Penfro wedi’i lansio

Posted On : 17/06/2019

Cafodd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ei lansio yng ngoleudy Pen-caer yn ddiweddar.

Daeth mwy nag ugain o westeion ac ymddiriedolwyr i Ben-caer a chawsom daith ar hyd yr arfordir gyda Pharcmon Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Ian Meopham a thaith dywys o amgylch y goleudy hanesyddol.

Dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Elsa Davies LVO, “Roedd lleoliad trawiadol y lansiad ym Mhen-caer yn berffaith ar gyfer dangos gwaith pwysig yr Ymddiriedolaeth. Tynnodd y lansiad sylw at gymaint o’r prosiectau allweddol y mae’r Ymddiriedolaeth newydd yn bwriadu eu hariannu.”

Dywedodd Rheolwr Codi Arian Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Jessica Morgan, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth: “Cafodd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ei sefydlu i hybu’r gwaith o ddiogelu tirwedd a bywyd gwyllt trawiadol Sir Benfro, gwella ei nodweddion unigryw ac arbennig, yn ogystal â diogelu ei phriodweddau eithriadol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Ar hyn o bryd, rydym yn bwriadu codi £10,000 tuag at yr apêl Creu Mwy o Ddolydd i helpu i ddiogelu ac adfer y dolydd sy’n bodoli yn y Parc Cenedlaethol ac i weithio gyda thirfeddianwyr i greu dolydd newydd. Mae’r dolydd yn gynefinoedd hollbwysig i drychfilod, sy’n hanfodol i beillio ffrwythau, llysiau a blodau.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr Ymddiriedolaeth a sut i gyfrannu, cysylltwch â Jessica Morgan ar 01646 624808 neu anfonwch neges e-bost at jessicam@pembrokeshirecoast.org.uk.

Gellir cyfrannu at Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro drwy’r wefan hefyd, sef www.ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru.

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen sydd wedi’i chofrestru gan Gomisiwn Elusennau’r DU, Rhif 1179281.