Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cynnig gwasanaeth ysgrifennu ewyllys am ddim

Posted On : 25/10/2021

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gwahodd aelodau o’r cyhoedd i roi trefn ar eu pethau yn rhad ac am ddim, diolch i bartneriaeth â Farewill, gwasanaeth ysgrifennu ewyllys mwyaf y DU.

 

Mae lleihau’r dreth etifeddiaeth trwy adael rhodd i elusen wedi dod yn fwyfwy poblogaidd dros y degawd diwethaf, gyda dros £3 biliwn yn cael ei godi ar gyfer gwahanol fudiadau trwy roddion ar ôl marwolaeth dros y flwyddyn ddiwethaf*. Gall hefyd ddod â’r boddhad o wybod y bydd gwerthoedd a chredoau’n cael eu trosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.

 

Bydd partneriaeth yr Ymddiriedolaeth â Farewill, Cwmni Ysgrifennu Ewyllys Cenedlaethol y Flwyddyn yn 2019, yn caniatáu i unrhyw un ysgrifennu neu ddiweddaru ei ewyllys yn rhad ac am ddim mewn cyn lleied â phymtheg munud, a hynny o ddiogelwch eu cartrefi eu hunain.

 

Dim ond nifer cyfyngedig o ewyllysiau rhad ac am ddim sydd ar gael y mis hwn, felly’r cyntaf i’r felin geith falu. Mae rhoddion i’r Ymddiriedolaeth yn ddewisol, ond wrth i’r Parc Cenedlaethol ddathlu ei ben-blwydd yn 70 oed yn ystod cyfnod o newid hinsawdd byd-eang a cholli bioamrywiaeth, gallai rhodd a adawyd mewn ewyllys helpu i gynnal y dirwedd drawiadol hon am genedlaethau i ddod.

 

Dywedodd Elsa Davies LVO, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Rydyn ni’n annog unrhyw un sydd heb ysgrifennu eu hewyllys eto, neu sydd heb ddiweddaru eu hewyllys ers tro byd, i fanteisio ar y cyfle gwych hwn. Mae rhoi rhywbeth i’r Ymddiriedolaeth yn ddewisol, ond os yw Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi chwarae rhan yn eich bywyd, mae’r gwasanaeth rhad ac am ddim hwn yn gyfle i drosglwyddo rhywbeth gwirioneddol wych – rhodd a fydd yn helpu i ddiogelu ein harfordir arbennig ar gyfer heddiw, yfory a’r dyfodol.”

 

Mae pob ewyllys a wneir gyda Farewill yn cael ei gwirio gan arbenigwr ac mae’n rhwymo yn gyfreithiol. I gael ysgrifennu eich ewyllys am ddim, ewch i  https://farewill.com/pembscoast5. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Nichola Couceiro yn Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar 01646 624 808.

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen gofrestredig ac fe’i sefydlwyd i hyrwyddo cadwraeth, y gymuned leol, diwylliant a’r arfordir. Ei nod yw arwain y ffordd o ran gwarchod tirwedd eiconig y Parc Cenedlaethol.

I gael rhagor o wybodaeth am Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r gwaith mae’n ei gefnogi, ewch i https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/.