Ymgyrch plannu coed yn dwyn ffrwyth
Mae ymgyrch gadwraeth lwyddiannus Gwyllt am Goetiroedd sy’n cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi rhagori ar ei tharged cychwynnol o godi £10,000 i blannu 1,000 o goed ychwanegol ar draws Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Nawr, mae’r ymgyrch wedi dechrau trawsnewid cloddiau, gwrychoedd a choridorau bywyd gwyllt lleol hefyd.
Cafodd dros 6,000 o goed eu plannu dros fisoedd y gaeaf diwethaf mewn naw safle ar wahân. Dewiswyd y safleoedd hyn yn ofalus gan arbenigwyr cadwraeth i sicrhau’r lleoliadau gorau a’u bod yn gwarchod cynefinoedd y dolydd presennol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Jessica Morgan: “Er bod coed yn chwarae rhan hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â chefnogi’r bywyd gwyllt o’n cwmpas, mae’n hawdd anghofio bod cloddiau yn cyflawni swyddogaeth debyg a’u bod yn aml yn arwyr tawel ein cefn gwlad.
“Mae cloddiau wedi bod yn nodwedd annatod o’n tirwedd ers dros fil o flynyddoedd, ond ers diwedd yr Ail Ryfel Byd rydym wedi colli tua hanner ohonynt. Mae hyn wedi ein gwneud yn agored i fygythiadau newid hinsawdd a dwysáu’r dirywiad mewn bioamrywiaeth.”
Mae gwirfoddolwyr wedi helpu i blannu mewn sawl safle, gan gynnwys Sychpant, lle plannodd chwe gwirfoddolwr ar gynllun Dug Caeredin gymysgedd o 470 o goed, ac ar hyd Aber Afon Cleddau, lle plannwyd tua 1,900 o goed chwip gan gynnwys coed derw, draenen wen, ddraenen ddu, collen, rhosyn gwyllt, afalau surion, bedw, ysgawen a cheirios, a fydd yn fanteisiol iawn i’r boblogaeth leol o ystlumod.
Mae 1,200 o goed eraill wedi cael eu plannu yng Nghastell Caeriw a Nanhyfer fel rhan o gynllun amaeth-goedwigaeth.
Gwnaethpwyd gwaith adfer arall ar glawdd â pherth yn Nhrewyddel ac mae cloddiau hefyd yn cael eu hadfer ym Maenclochog a Dinas a chloddiau newydd ym Mrynberian, gan helpu i gysylltu Gwarchodfa Natur Genedlaethol Tŷ Canol â choetiroedd eraill gerllaw. Ym Mhenygroes, ar gyrion Mynydd Preseli, plannwyd 300 o goed mewn clawdd newydd a chae moch hynafol i ddarparu cysylltedd hanfodol i wiberod yr ardal.
Un o’r pethau gorau am blannu coed a chloddiau yw, ar ôl iddyn nhw sefydlu, mae modd eu rheoli yn rhad iawn a heb lawer o ymyrraeth.
Wrth i ni gael cadarnhad o’r cyllid newydd, byddwn yn chwilio am ragor o gyfleoedd i gynyddu nifer y coed sy’n cael eu plannu yn Sir Benfro ac i gefnogi Wardeiniaid Coed gwirfoddol. Gwneir gwaith hefyd i gynyddu ardaloedd o gynefinoedd a reolir yn ffafriol sy’n cynnal bioamrywiaeth a choridorau cysylltedd allweddol yn y Parc Cenedlaethol.
Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen sydd wedi’i chofrestru gan Gomisiwn Elusennau’r DU. Rhif cofrestru’r elusen yw 1179281.
I gyfrannu ar-lein a chael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch Gwyllt am Goetiroedd, ewch i www.ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/sut-gallwch-chi-helpu/gwyllt-am-goetiroedd.