Rhoi o Dramor

Os ydych yn talu treth yn UDA a hoffech wneud rhodd treth-effeithiol i Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gallwch wneud hynny'n hawdd drwy CAF America.

Er y byddem yn falch iawn o dderbyn unrhyw roddion a anfonir yn uniongyrchol, nid ydym wedi’n hawdurdodi i roi’r dderbynneb angenrheidiol i hawlio’ch didyniad treth, felly gall dinasyddion Americanaidd wneud rhodd i’r Ymddiriedolaeth trwy CAF America. Mae hon yn elusen gyhoeddus annibynnol o’r UD a’i chenhadaeth yw cynyddu llif arian elusennol y tu allan i’r Unol Daleithiau. Mae CAF yn codi ffi weinyddol gymedrol o 8% am y gwasanaeth hwn.

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen gofrestredig yn y DU (rhif 1179281) ac mae ar gronfa ddata CAF America.