Dyma ein Parc Cenedlaethol - Gadewch i ni ei warchod gyda'n gilydd
Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Gwylio Fideo“Ein gweledigaeth yw parc cenedlaethol lle mae natur, diwylliant a’r cymunedau yn ffynnu”
“Helpwch ni i adfer byd natur a chryfhau ein cymunedau”
“Gyda’n gilydd, gallwn warchod ein tirweddau a chreu dyfodol cynaliadwy i bobl ac i’r bywyd gwyllt.”
PARTNERIAID PRESENNOL
Gweithio gyda’n gilydd
Drwy weithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gall eich busnes chwarae rhan hanfodol mewn gwarchod, gwella a dathlu un o’r tirweddau a drysorir fwyaf yn y DU. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod y Parc Cenedlaethol trawiadol hwn, gyda’i fioamrywiaeth gyfoethog a’i dreftadaeth arfordirol unigryw, yn parhau i ffynnu am genedlaethau i ddod
CYLLIDWYR PRESENNOL
Gweithio gyda’n gilydd
Yn Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae ein cenhadaeth i ddiogelu a gwarchod tirweddau, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol unigryw Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ond yn bosibl drwy gymorth hael ein cyllidwyr. Mae eu cyfraniadau yn ein galluogi i gynnal prosiectau cadwraeth hanfodol, ymgysylltu â chymunedau, ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i drysori’r amgylchedd eithriadol hwn. Rydym yn hynod ddiolchgar am ymrwymiad ein cyllidwyr, y mae eu hymroddiad yn helpu i sicrhau bod y Parc Cenedlaethol eiconig hwn yn cael ei gynnal yn yr hirdymor i bawb ei fwynhau.