Ein Cyllidwyr

Yn Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae ein cenhadaeth i ddiogelu a gwarchod tirweddau, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol unigryw Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ond yn bosibl drwy gymorth hael ein cyllidwyr. Mae eu cyfraniadau yn ein galluogi i gynnal prosiectau cadwraeth hanfodol, ymgysylltu â chymunedau, ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i drysori’r amgylchedd eithriadol hwn. Rydym yn hynod ddiolchgar am ymrwymiad ein cyllidwyr, y mae eu hymroddiad yn helpu i sicrhau bod y Parc Cenedlaethol eiconig hwn yn cael ei gynnal yn yr hirdymor i bawb ei fwynhau.

Ymddiriedolaeth Bannister

Ymddiriedolaeth Bannister

Ariannwr

Rydym wedi derbyn y rhandaliad olaf o £10,000 gan Ymddiriedolaeth Bannister, gan gloi rhodd hael o £30,000 dros dair blynedd sydd wedi cynnal ymdrechion hanfodol i warchod coetiroedd ar hyd a lled y Parc Cenedlaethol. Mae’r cyllid hwn wedi chwarae rhan arwyddocaol o ran gwella tirweddau naturiol Sir Benfro, cynnal bioamrywiaeth, a diogelu cynefinoedd hanfodol.

Plans for the coming year focus on enhancing habitat connectivity and supporting key species across several locations. Bydd gwrychoedd newydd a choed yn y caeau yn cael eu plannu o gwmpas Mynyddoedd y Preseli i greu llwybr hedfan hollbwysig rhwng Coedwig Pengelli a’r Cleddau Ddu, gyda’r nod o gysylltu dwy boblogaeth fridio o ystlumod du, yr unig rai y gwyddys amdanynt yng Nghymru. Yn Freshwater East a Chreseli, bydd ehangu’r gwrychoedd yn gwella cynefinoedd ar gyfer y glöyn byw prin, y brithribin brown, tra bydd gwrychoedd lletach yn y Garn yn gynefin ychwanegol i’r bras melyn, rhywogaeth sy’n bryder cadwraethol.

Ymhlith yr ymdrechion ychwanegol fydd plannu coed ar ymyl y ffordd a pherthi newydd yn Abereiddi ac yn Amroth i gysylltu cynlluniau gwrychoedd presennol, ynghyd â phlannu yn y cae ym Mhen Strwmbwl i greu tirwedd mwy amrywiol o ddolydd a choed. Y gobaith yw y bydd cloddiau newydd ym Mynachlog-ddu ac yng Nghas-mael yn cynnal titw’r helyg ac yn diogelu safleoedd SoDdGA rhag effeithiau amaethyddol. Ac yn olaf, mae cynlluniau ar droed i blannu coed ym Mrynberian i gysylltu Gwarchodfa Natur Tŷ Canol â safleoedd eraill o goetir, gan ffurfio coridorau bywyd gwyllt sy’n hanfodol i hwyluso symudiad rhywogaethau ac amrywiaeth enynnol.

Ymddiriedolaeth Gymunedol Cod Post

Ymddiriedolaeth Gymunedol Cod Post

Ariannwr

Diolch enfawr i Loteri Cod Post y Bobl a chymorth y #PostcodeLotteryPeople! Mae eu rhodd hael o £20,000 wedi cynnal 3 o’n prosiectau gwych yn Sir Benfro sy’n gwella bioamrywiaeth, cynhwysiant a llesiant ar draws Arfordir Sir Benfro. Ymhlith y prosiectau penodol sydd wedi elwa o’r cyllid hwn mae’r prosiect Adar a Gwenyn, Llwybrau, a Dewch i’r Awyr Agored.

Cyfoethogi Sir Benfro – Cyngor Sir Penfro

Cyfoethogi Sir Benfro – Cyngor Sir Penfro

Ariannwr

Rydym yn hynod ddiolchgar bod Cyfoethogi Sir Benfro wedi cyfrannu £15,000 i brosiect Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro (PODS) eleni. Mae PODS yn bartneriaeth gydweithredol gydnabyddedig sy’n cynorthwyo holl ysgolion Sir Benfro, eu penaethiaid, staff a’r disgyblion. Bydd y prosiect arfaethedig yn rhoi cyngor a chymorth integredig, hyfforddiant pwrpasol i’r staff addysgu, sesiynau dysgu ysbrydoledig i ddisgyblion yn yr awyr agored, ac yn creu adnoddau dysgu newydd, yn unol â’r cwricwlwm newydd.

NextEnergy De-orllewin Lloegr, Cymru, Cronfa Effaith Solar Gogledd Iwerddon

NextEnergy De-orllewin Lloegr, Cymru, Cronfa Effaith Solar Gogledd Iwerddon

Ariannwr

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Fferm Solar Llwyndu am eu rhodd o £1500 tuag at y prosiect Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro drwy Gronfa Solar NextEnergy.

Mae hon yn rhaglen ddysgu awyr agored mor bwysig sy’n annog plant i gysylltu â byd natur ledled Sir Benfro, ac mae Cronfa Solar NextEnergy wedi dweud eu bod wrth eu bodd yn cefnogi’r fenter hon.

Ymddiriedolaeth Elusennol Swire

Ymddiriedolaeth Elusennol Swire

Ariannwr

Diolch enfawr i Ymddiriedolaeth Elusennol Swire am eu rhodd hael o £11,000 i’r prosiect Llwybrau. Bydd eu cymorth yn cyfrannu at lwyddiant y prosiect yn 2024/2025.

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro wrth ei bodd yn cefnogi’r prosiect Llwybrau sy’n chwalu rhwystrau i wirfoddoli ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Nod y prosiect yw hybu cyfranogiad, yn enwedig ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan ddangos manteision gwirfoddoli er lles personol ac i’r amgylchedd.

Sefydliad Hedley

Sefydliad Hedley

Ariannwr

Diolch yn fawr iawn i Sefydliad Hedley am eu rhodd hael o £3500.

Bydd yr arian hwn yn cael ei wario ar brynu Cadair Olwyn Oddi-ar-y-ffordd sy’n addas ar gyfer pob math o dir, gan alluogi cymunedau lleol ac ymwelwyr gael mynediad i’r Parc Cenedlaethol.

I gael gwybod mwy am Sefydliad Hedley, ewch i: https://www.hedleyfoundation.org.uk/

Ymddiriedolaeth Elusennol Ernest Kleinwort

Ymddiriedolaeth Elusennol Ernest Kleinwort

Ariannwr

Mae elusen Ernest Kleinwort wedi ein cynorthwyo sawl gwaith dros y blynyddoedd diwethaf drwy ddarparu cyllid ar gyfer rhai o’n prosiectau adfer byd natur gan gynnwys Creu Mwy o Ddolydd a Gwyllt am Goetiroedd. Rydym wrth ein bodd eu bod wedi darparu gwerth £5000 arall o arian tuag at ein prosiect Adar a Gwenyn. Mae hwn yn brosiect cadwraeth uchelgeisiol gyda’r nod o wrthdroi’r dirywiad sylweddol mewn bioamrywiaeth o fewn ac o gwmpas Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Rydym yn canolbwyntio ar adfer, creu a diogelu cynefinoedd hanfodol ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau sydd dan fygythiad, gan gynnwys adar, gwenyn, gloÿnnod byw, ystlumod, a mathau eraill o fywyd gwyllt. Mae’r prosiectau adfer a chreu cynefinoedd penodol yn cynnwys gwaith ar ddolydd, coetiroedd a gwrychoedd a gwlyptiroedd.

Ymddiriedolaeth Teulu Kiln

Ymddiriedolaeth Teulu Kiln

Ariannwr

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r Ymddiriedolaeth Teulu Kiln am eu cyfraniad caredig o £1000 tuag at warchod ein llwybrau arfordirol yn Sir Benfro.

Maent yn ymddiriedolaeth fach deuluol sydd wedi treulio sawl gwyliau hapus yn Sir Benfro ac yn dymuno cyfrannu at achos sy’n agos at eu calonnau.

Cynghorau Tref a Chymuned

Cynghorau Tref a Chymuned

Ariannwr

Mae sawl cyngor cymuned wedi dangos eu cefnogaeth i waith y prosiect Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro yn 2024 gyda rhoddion hael gan Gyngor Tref Hwlffordd, Cyngor Cymuned Scleddau, a Chyngor Tref Trefdraeth.