Cyfrannu i Brosiect

The Pembrokeshire Coast National Park Trust is committed to supporting the best projects delivered by the best people and informed by the Pembrokeshire Coast National Park Management Plan, local communities and environmental and heritage experts.

Beth am sôn am…

YR ADAR A'R GWENYN

Mae Ymddiriedolaeth APCAP wedi lansio ymgyrch newydd gyda’r nod o wella cynefinoedd ar hyd a lled y Parc Cenedlaethol i gynnal y bywyd gwyllt amrywiol sy’n byw yn y rhan ysblennydd hon o Gymru. Mae ein Parc Cenedlaethol yn ecolegol yn un o rannau cyfoethocaf a mwyaf amrywiol Cymru ac yn cael ei gydnabod fel ardal o bwysigrwydd rhyngwladol am ystod eang o gynefinoedd o ansawdd uchel ac am rywogaethau prin..
ond mae hyn i gyd dan fygythiad.

MAE ANGEN EICH CYMORTH ARNOM

Beth am sôn am…Yr Adar a’r Gwenyn

Mae’r Gardwenynen Feinlais yn un o’r cacwn sydd fwyaf dan fygythiad yn y DU. Yn Sir Benfro mae gennym un o’r poblogaethau olaf sydd wedi goroesi, yn bennaf oherwydd ein cynefinoedd arfordirol llawn blodau. Ers 1994, mae poblogaeth yr aderyn bras melyn yng Nghymru wedi gostwng 30% yn sgîl colli cynefin a thir amaeth nad yw bellach yn cynhyrchu’r hadau y bu’r adar hyn unwaith yn eu bwyta ac yn ffynnu. Yn Sir Benfro, mae’r bras melyn wedi gostwng dros 90% yn y 40 mlynedd diwethaf.

Dim ond dau yw’r rhain o’r rhywogaethau adar a gwenyn sydd angen eich help.

Mae ein hamgylchedd yn fregus, yn dirywio ac angen ein cymorth yn fwy nag erioed. Boed Sir Benfro yn gartref i chi neu’n gartref oddi cartref, helpwch ni i warchod ein Parc Cenedlaethol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Achub rhywogaethau, sicrhau dyfodol – helpwch ni i adfer treftadaeth naturiol Sir Benfro.”

Gwarchod

LLWYBR ARFORDIR PENFRO

Beth am gyfrannu yn awr i helpu i warchod ein llwybr yr arfordir rhag newid hinsawdd!

Mae Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, sy’n ymestyn ar hyd 186 milltir o arfordir trawiadol drwy unig Barc Cenedlaethol arfordirol y DU, yn llwybr holl bwysig, sy’n ddolen gyswllt rhwng cymunedau ac sy’n cynnal ein bywyd gwyllt a’n heconomi.

Mae’r ardal arbennig hon yn wynebu bygythiadau difrifol yn sgîl newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys stormydd enbyd, lefelau’r môr yn codi, ac erydiad yr arfordir. Mae angen cymorth yn ddi-oed ar ein llwybrau i oresgyn yr heriau hyn!

Mae’r costau cynnal a chadw yn codi a’r arian yn prinhau, ac mae ein llwybrau godidog mewn perygl. Mae gwir angen eich help arnom ar fyrder i ariannu’r gwaith atgyweirio hanfodol. Bydd eich cymorth yn ein galluogi i ailadeiladu pontydd, newid llinell y llwybrau, gwarchod henebion, a diogelu’r traethau rhag erydiad. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth!

Gall dim ond £5 y mis helpu i warchod ac atgyweirio Llwybr Arfordir Sir Benfro er budd pobl ac er budd bywyd gwyllt.