Codi Arian

Rydym bob amser yn chwilio am gefnogwyr ymroddedig i ymgymryd â heriau sy’n hwyl ac yn greadigol i helpu i ofalu am Barc Cenedlaethol trawiadol Arfordir Penfro. P’un a ydych chi’n chwilio am her anturus neu weithgaredd cymunedol i gael hwyl, bydd eich ymdrechion yn mynd ymhell i warchod y dirwedd ysblennydd hon.

Dyma rai syniadau gwych

I’ch ysbrydoli i godi arian!

Globe in hand

Digwyddiadau noddedig

Cerdded, rhedeg, seiclo, neu nofio i godi arian.
People Running

Cynnal digwyddiadau cymunedol

Trefnu noson gwis, ocsiwn elusen neu fore coffi.
Cupcake

Gwerthu cacennau a bwyd cartref

Rhannu eich sgiliau pobi a gwerthu bwyd cartref.
Winners podium

Ymdrechion record byd

Anelu’n uchel, allech chi dorri record byd i godi ymwybyddiaeth?
Top of a mountain

Heriau personol

Rhoi cynnig ar her feiddgar megis nenblymio, eillio’r pen, neu ymatal am gyfnod rhag defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.

“Beth am ddod yn Hyrwyddwr Codi Arian i Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro”

Sut bynnag y byddwch yn dewis cymryd rhan, byddem wrth ein bodd yn clywed amdano!

Pa fodd bynnag y byddwch yn dewis cymryd rhan, byddem wrth ein bodd yn clywed am eich ymdrechion! Gallwch sefydlu eich tudalen codi arian drwy JustGiving (Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro – JustGiving ) a cofiwch gadw mewn cysylltiad â ni fel y gallwn roi cyhoedduswydd arbennig i chi. Gyda’n gilydd, gallwn ddiogelu a gwarchod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.