Gadael Gwaddol Barhaol
Pam Gadael Rhodd yn Eich Ewyllys?
Helpwch ni i Warchod Harddwch a Threftadaeth Arfordir Sir Benfro
Gwarchod Cynefinoedd Gwerthfawr
Cynnal Llwybrau Troed a Llwybrau eraill
Gwarchod Bywyd Gwyllt
Ymgysylltu â Chenedlaethau’r Dyfodol
Sut mae Gadael Rhodd
YN EICH EWYLLYS
Mae gadael gwaddol yn syml. Ar ôl i chi wneud trefniadau ar gyfer eich anwyliaid, gallwch gynnwys rhodd i gynnal Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Gallwch wneud hynny drwy eich cyfreithiwr.
Gwneud Ewyllys
Mae pob rhodd, waeth pa mor fawr neu fach, yn gwneud gwahaniaeth. Gallai cyn lleied ag 1% helpu i ofalu am y lle hardd ac arbennig hwn fel ei fod yn dal yma i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau a’i werthfawrogi.
Os hoffech adael rhodd yn eich ewyllys i Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, y cyfan sydd ei angen arnoch yw ein cyfeiriad elusen a’r rhif elusen gofrestredig, a nodir isod.
Cyfeiriad:
Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Parc Llanion
Doc Penfro
Sir Benfro
SA72 6DY
Rhif Elusen Gofrestredig: 1179281
Rhowch wybod i Ni
Os ydych eisoes wedi cynnwys Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn eich ewyllys, a fyddech gystal ag ystyried rhoi gwybod i ni. Nid ydych dan unrhyw rwymedigaeth i wneud hynny, ond mae gwybod am eich cymynrodd yn ein galluogi i gynllunio’n fwy effeithiol ar gyfer y dyfodol. Rydym yn trin y wybodaeth hon yn gwbl gyfrinachol.
EICH GWADDOL
Addewid i Sir Benfro
Mae gadael rhodd yn eich ewyllys yn benderfyniad personol iawn. Drwy ddewis cefnogi Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, rydych yn gwneud cyfraniad parhaol fydd o fudd i fyd natur ac i gymunedau am genedlaethau i ddod.
Rydym yn aelod o Gazette Cymdeithas y Cyfreithwyr. I gael gwybod mwy ewch i wefan Law Society Gazette.
Cwestiynau?
Os hoffech gael gair â rhywun am adael rhodd yn eich ewyllys neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni yn gyfrinachol ar 01646 624909 neu e-bostiwch katiem@arfordirpenfro.org.uk.