Cwrdd â’n Tîm

Katie Macro

Katie Macro

Cyfarwyddwr

Ymunodd Katie ag Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro fis Chwefror 2023. Cyn hynny bu’n gweithio i elusen genedlaethol Cymru, ac mae gan Katie brofiad mewn amrywiaeth o arbenigeddau codi arian, o godi arian yn y gymuned a stiwardiaeth rhoddwyr arian mawr, i grantiau ac ymddiriedolaethau a rheoli digwyddiadau. Cafodd ei magu yn Sir Benfro ac yn dal i fyw yn y sir, mae Katie yn angerddol iawn am y Parc Cenedlaethol ac yn gyffrous am greu ymgyrchoedd a chyfleoedd i alluogi’r Ymddiriedolaeth barhau â’i gwaith yn cefnogi’r Parc Cenedlaethol.

E-bost: katiem@pembrokeshirecoast.org.uk

Anna Elliott

Anna Elliott

Swyddog Ariannu Allanol

Ymunodd Anna ag Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fel Swyddog Ariannu Allanol fis Awst 2023. Cyn hynny bu Anna yn gweithio i elusen cadwraeth forol yn Sir Benfro, a hi oedd yn gyfrifol am gyrchu a rheoli grantiau. Fel Biolegydd Amgylcheddol â chefndir mewn bioleg y môr a chyllid, mae Anna o’r farn y gall ddefnyddio ei sgiliau i gefnogi gwaith yr Ymddiriedolaeth. Mae Anna yn angerddol dros gadwraeth ac arfordir ysblennydd Sir Benfro ac mae hi’n gyffrous am helpu i warchod y Parc Cenedlaethol i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.

E-bost: annae@pembrokeshirecoast.org.uk

Jamie Owen

Jamie Owen

Noddwr

Jamie Owen, darlledwr, newyddiadurwr ac awdur a aned yn Sir Benfro, yw angor Ewrop y sianel ryngwladol Newyddion Teledu CGTN yn Llundain. Cyn hynny bu’n gweithio i TRT World yn Istanbul ac roedd yn un o’r darlledwyr fu’n gweithio hiraf i BBC Wales Today. Ar ddod yn Noddwr yr Ymddiriedolaeth, dywedodd: “Braint i mi yw fod wedi gallu archwilio pob cornel o dirwedd y Parc Cenedlaethol dros y blynyddoedd, o deithiau cerdded yn blentyn ar draethau De Sir Benfro, i gerdded ar fryniau garw gogledd y sir a theithio i’r ynysoedd oddi ar y glannau. Hawdd yw peidio â meddwl am y gwaith o edrych ar ôl y lleoedd arbennig hyn, a dyna pam yr ydw i’n hapus i gefnogi’r elusen newydd hon, fydd yn ariannu prosiectau hanfodol fydd yn cynnig cyfleoedd i fwy o bobl gael profiad o’r lleoedd a’r bywyd anturus y bûm innau yn ddigon ffodus o’i gael.”

Elsa Davies

Elsa Davies

Cadeirydd

Gyda’i gwreiddiau yng ngogledd Sir Benfro, mae’r sir a’i llwybr arfordirol nodedig yn bwysig iawn i Elsa. Ers ymddeol fel Cyfarwyddwr y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Caeau Chwarae, mae wedi bod yn gysylltiedig â nifer o sefydliadau yng Nghymru, o gyrff addysg uwch fel Prifysgol Cymru, gan gadeirio ei Phwyllgor Archwilio, i fudiadau gwirfoddol lleol lle mae ei chyfraniad wedi canolbwyntio’n aml ar greu incwm a llywodraethu. Yn 2004, penodwyd Mrs Davies yn Rhaglaw yr Urdd Fictoraidd Brenhinol.
Duncan Fitzwilliams

Duncan Fitzwilliams

Ymddiriedolwr

Magwyd Duncan yn Sir Aberteifi ac yng Ngogledd Sir Benfro. Ar ôl ymddeol, mae wedi dychwelyd i fyw yn Nhrefdraeth. Dechreuodd ei yrfa mewn rheoli buddsoddiadau. Yn 1970, cydsylfaenodd CASE PLC ac roedd yn Gadeirydd arno. Ar ôl 1980, ei ffocws oedd cyfalaf menter a bancio buddsoddi. Mae wedi bod yn aelod o fyrddau llawer o gwmnïau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys y Foreign and Colonial Investment Trust, AXA Fund Managers SA (Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio), un o’r rheolwyr cronfa mwyaf yn y byd, Hydra Ventures, cwmni Menter Gorfforaethol ADIDAS, a Quadrant Healthcare. Duncan yw cadeirydd y pwyllgor sy’n adfer tŵr a chlychau Eglwys Nanhyfer. Yn 1953 enillodd y cwpan am drin cwrwgl yn regata Cilgerran.

Gwyneth Hayward

Gwyneth Hayward

Ymddiriedolwr

Ganwyd Gwyneth ym Mangor, Gwynedd a threuliodd ei gyrfa broffesiynol ym myd addysg yn Ne Ddwyrain Lloegr ac yn y Dwyrain Canol. Ar ôl dychwelyd i fyw yng Nghymru yn 2000, ac yn byw bellach yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, mae Gwyneth hefyd yn un o’r ymddiriedolwyr a sefydlodd Ymddiriedolaeth Adfer Aberglasne ac mae wedi bod yn Aelod Llywodraeth Cymru o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) ers 2010. Etholwyd Gwyneth yn Ddirprwy Gadeirydd APCAP yn 2016 cyn dod yn Gadeirydd yn 2017.

Paul Harries

Paul Harries

Ymddiriedolwr

Ymunodd Paul ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fel Aelod yn 2012. Roedd yn Gadeirydd Cyngor Sir Benfro yn 2017-2018. Cyn dod yn Gynghorydd bu’n gweithio yn y diwydiant olew am flynyddoedd lawer. Bellach mae’n berchennog siop Swyddfa’r Post a siop yn Nhrefdraeth. Mae wedi byw yn y Parc Cenedlaethol am y rhan fwyaf o’i oes ac mae’n gerddwr mynyddoedd, dringwr a morwr brwd sydd â diddordeb ym mioamrywiaeth ac ecoleg y Parc. Mae Paul yn Gynghorydd ar Gyngor Sir Benfro yn cynrychioli Trefdraeth, Sir Benfro.

Peter Walker

Peter Walker

Ymddiriedolwr

Roedd Peter yn Brif Werthwr Cerbydau gyda Greens Jaguar Land Rover yn Sir Benfro ac yn Gadeirydd Cabinet Gwerthwyr Cerbydau Land Rover ar gyfer y DU. Roedd yn gyd-sylfaenydd The Pembrokeshire Bike Shop, gan ei gwerthu yn 2015. Dyma’r Siop Feiciau sy’n Bartner Swyddogol i IRONMAN UK. Mae Peter yn byw yn y Parc ac mae’n hoff iawn o’r awyr agored, yn enwedig hwylio, rhedeg, cerdded a beicio ac, ar hyn o bryd, mae’n drefnydd The Tour of Pembrokeshire. Mae Peter yn credu y gall ddefnyddio ei wybodaeth am fyd busnes a’i gysylltiadau yn y byd hwnnw i helpu i ddiogelu treftadaeth a rhinweddau unigryw y Parc i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.
Dr Madeleine Harvard

Dr Madeleine Harvard

Ymddiriedolwr

Gwyddonydd amgylcheddol yw Madeleine Havard sydd â phrofiad o weithio i sefydliadau amgylcheddol gwirfoddol a statudol, ac fel academydd, yn darlithio mewn astudiaethau amgylcheddol gyda diddordebau ymchwil mewn cadwraeth a rheolaeth forol ac arfordirol. Mae hi wedi bod yn aelod o nifer o bwyllgorau ymgynghorol cenedlaethol a Byrddau sefydliadau ac elusennau ym maes yr amgylchedd, addysg a threftadaeth, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur y DU, Pwyllgor Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol Cymru, a Chyswllt Amgylchedd Cymru. Ar hyn o bryd mae hi yn Ymddiriedolwr Amgueddfa Cymru ac yn aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Michele Wiggins

Michele Wiggins

Ymddiriedolwr

Ymunodd Michele ag Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fel Ymddiriedolwr yn 2022. Cyn bod yn Gynghorydd Sir, bu’n gweithio mewn swyddfa Penseiri am 15 mlynedd ac mewn ysgol uwchradd am 8 mlynedd. Mae hi wastad wrth ei bodd â llwybr yr Arfordir ac yn rhedwr a cherddwr brwd. Mae ganddi brofiad o godi arian a chael grantiau ar gyfer ei hysgol leol. Mae’n credu ei bod hi’n bwysig i bawb gael profiad o lwybr yr Arfordir a dysgu mwy am y llwybr o oedran cynnar. Mae hi’n angerddol dros Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac mae’n edrych ymlaen at helpu gymaint ag y gall.
Andrew Cooksley MBE

Andrew Cooksley MBE

Ymddiriedolwr

Mae Andrew yn entrepreneur sy’n adnabyddus am ei arweinyddiaeth ym myd addysg a busnes. Fel Sylfaenydd a Phrif Weithredwr Hyfforddiant ACT, mae wedi arwain y sefydliad i ddod yn brif ddarparwr hyfforddiant yng Nghymru dros y 30 mlynedd diwethaf. O dan ei stiwardiaeth, mae Hyfforddiant ACT wedi derbyn nifer o ganmoliaethau, gan gynnwys cael ei restru nifer o weithiau yn “Y 100 Cwmni Gorau i Weithio iddynt yn y DU” y Sunday Times. Mae angerdd Andrew dros welliant cymdeithasol yn ymestyn y tu hwnt i fyd busnes, a amlygir yn ei rolau fel Entrepreneur Preswyl ym Mhrifysgol Caerdydd, Ymddiriedolwr yn Llamau, a llywodraethwr Ysgol Uwchradd yr Helyg yng Nghaerdydd. Fel Sylfaenydd a Phrif Weithredwr Hyfforddiant ACT, mae wedi arwain y sefydliad i ddod yn brif ddarparwr hyfforddiant yng Nghymru dros y 30 mlynedd diwethaf. O dan ei stiwardiaeth, mae Hyfforddiant ACT wedi derbyn nifer o ganmoliaethau, gan gynnwys cael ei restru nifer o weithiau yn “Y 100 Cwmni Gorau i Weithio iddynt yn y DU” y Sunday Times. Mae angerdd Andrew dros welliant cymdeithasol yn ymestyn y tu hwnt i fyd busnes, a amlygir yn ei rolau fel Entrepreneur Preswyl ym Mhrifysgol Caerdydd, Ymddiriedolwr yn Llamau, a llywodraethwr Ysgol Uwchradd yr Helyg yng Nghaerdydd.