Mabwysiadu Gwenynen
Ymuno â’r cwch gwenyn
MABWYSIADU GWENYNEN
Mabwysiadwch heddiw i chi’ch hun, neu fel anrheg berffaith i rywun annwyl.
Yn eich pecyn mabwysiadu byddwch yn derbyn:
Tegan meddal o wenynen
Tystysgrif mabwysiadu
Cymysgedd o hadau blodau gwyllt brodorol y DU
Taflen ffeithiau am wenyn
Mae’r holl elw yn mynd at warchod cynefinoedd gwenyn a ffynonellau bwyd ar draws Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Ymweld â Chastell Caeriw, Oriel y Parc neu Gastell Henllys?
Gallwch hefyd gael pecyn mabwysiadu o unrhyw un o’r safleoedd hyn.
*Noder os gwelwch yn dda, mae postio i lefydd yn y DU wedi’i gynnwys yn y pris. Os dymunwch i’ch eitem gael ei anfon i wlad dramor, codir tâl ychwanegol. Ffoniwch 01646 624909 i gael gwybod mwy.
Pam mae cynefinoedd gwenyn mor bwysig?
PCNPA Conservation Officer
CLARE FLYNN
Dyma ddywed un o Swyddogion Cadwraeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ynghylch pam fod cefnogi cynefinoedd gwenyn mor bwysig …..
‘Gweld dirywiad sylweddol dros y degawdau diwethaf, yn bennaf oherwydd colli cynefinoedd llawn blodau gwyllt ar draws ein cefn gwlad. Mae cynefinoedd megis dolydd, glaswelltir corsiog a gweundir grugog yn ateb anghenion gwenyn drwy roi llefydd iddynt nythu yn ogystal â phaill a neithdar. Yn eu tro mae’r gwenyn yn peillio llawer o’n blodau gwyllt ac yn sail i gynhyrchu llawer o gnydau bwyd ar ein ffermdir. Mae gwarchod ac adfer cynefinoedd addas, a chreu rhai newydd, gan gynnwys ‘pocedi’ o gynefinoedd ar ein ffermydd, ein trefi a’n gerddi, yn hanfodol i sicrhau dyfodol iach i’n cacwn a’n gwenyn unig ac i’n peillwyr hyfryd eraill.’