Beth am gynnal Parti Pâl i ddathlu pumed pen-blwydd Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn gwahodd pobl i drefnu gweithgareddau codi arian ym mis Gorffennaf 2023 i helpu i nodi ei phen-blwydd yn bump oed.

Mae’r Ymddiriedolaeth wedi codi dros £225,000 o amrywiaeth o ffynonellau ers 2018, gan gynnwys prosiectau fel Pobl, Llwybrau a Phryfed Peillio, Creu Mwy o Ddolydd a Gwyllt am Goetiroedd.

Mae hefyd wedi darparu Grantiau Gweithredu dros Natur i helpu grwpiau cymunedol a sefydliadau lleol i roi hwb i fioamrywiaeth, gweithredu ar newid yn yr hinsawdd neu addysgu eraill ar y pynciau pwysig hyn.

Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Gallwch ein helpu i ddathlu ein pum mlynedd gyntaf drwy drefnu te parti, bore coffi neu werthu cacennau gyda’ch ffrindiau, eich teulu, eich busnes neu’ch cymuned leol rhwng 1 a 31 Gorffennaf 2023.

“Os oes angen ysbrydoliaeth neu help arnoch i ddechrau arni, mae gennym amrywiaeth o adnoddau ar ein gwefan i’ch helpu i drefnu a gwneud eich Parti Pâl yn llwyddiant a chodi arian y mae mawr ei angen i gadw Arfordir Penfro yn arbennig nawr a’i ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Mae’r adnoddau sydd ar gael yn cynnwys templedi poster a gwahoddiadau, Cwis Parti Pâl, addurniadau cacennau a chardiau ryseitiau.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb, ewch i Beth am gael Parti Pâl

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Katie a Georgia drwy e-bostio support@pembrokeshirecoasttrust.wales neu ar 01646 624811

Rhif elusen gofrestredig Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yw 1179281.