Ein Partneriaid

Drwy weithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gall eich busnes chwarae rhan hanfodol mewn gwarchod, gwella a dathlu un o’r tirweddau a drysorir fwyaf yn y DU. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod y Parc Cenedlaethol trawiadol hwn, gyda’i fioamrywiaeth gyfoethog a’i dreftadaeth arfordirol unigryw, yn parhau i ffynnu am genedlaethau i ddod.

Crys-t hardd ar y thema gwenyn

LIFEFORMS ART

Pleser o’r mwyaf gan yr Ymddiriedolaeth yw cyhoeddi ein partneriaeth â Lifeforms Art, sydd wedi creu crys-t hardd ar y thema gwenyn, ac sy’n hael iawn yn rhoi 10% o’r elw i gefnogi ein prosiect Adar a Gwenyn.

Gallwch brynu un o’r crysau-t hyn drwy ymweld â’u gwefan yma.

Lifeforms Art yw’r teulu Hughes o orllewin Cymru. Maent yn gadwraethwyr ac yn artistiaid yn creu celf i’w wisgo a’i rannu, i godi ymwybyddiaeth am gadwraeth ac i ddathlu byd natur. Mae gwerthiant eu cynnyrch yn cynnal eu sefydliadau ymarferol parhaus ar gadwraeth infertebratau a sefydliadau eraill ar gadwraeth.

Mae’r holl waith celf wedi’i dynnu â llaw, ac mae eu crysau-T cotwm organig o ffynonellau moesegol, eu crysau chwys, a’u hwdis hefyd wedi’u hargraffu â llaw. Maent yn argraffu yn ôl archebion er mwyn osgoi gwastraff. Mae’r inciau a ddefnyddir ar gyfer argraffu yn seiliedig ar ddŵr sy’n golygu bod y crysau-T yn fwy meddal ac yn para’n hirach.

Mae Lifeforms Art yn dewis y creaduriaid sy’n syfrdanu, yn ysbrydoli, sydd angen ychydig mwy o ddealltwriaeth ac sy’n sbardun i bobl sydd am ddarganfod mwy am y byd naturiol rhyfeddol.

Bob dydd, maent yn cael eu hysbrydoli a’u gwefreiddio gan harddwch ac amrywiaeth y byd natur o’n cwmpas, eu cenhadaeth yw rhannu’r wefr a helpu eraill yn yr ymdrech barhaus i warchod y rhyfeddodau byw sy’n rhannu’r blaned hon.

Lifeforms Art

“The Pembrokeshire Coast is a very special place for us and we’re delighted to be able to support them in this way.” Lifeforms Art

Menter Gwreiddiau Roots

SOUTH HOOK LNG

Mae’r fenter Gwreiddiau, a lansiwyd yn 2020, yn gynllun unigryw o gydweithredu rhwng Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac LNG South Hook, gyda’r nod o gysylltu plant â’r byd natur drwy brofiadau ymarferol. Drwy ganolbwyntio ar addysgu am gynnyrch naturiol, rhwydweithiau bwyd cymunedol, a bioamrywiaeth leol, mae’r prosiect wedi tyfu i fod yn rhaglen addysg amgylcheddol allweddol ar gyfer ysgolion yn ardal Aberdaugleddau.

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro, Katie Macro: “Rydym yn hynod falch o’r camau ymlaen a gymerwyd gan y cynllun Gwreiddiau yn 2023, ac yn edrych ymlaen yn eiddgar i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw yn y flwyddyn sydd i ddod.

“Drwy barhau i weithio gydag ysgolion a sefydliadau, ein nod yw ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o stiwardiaid yr amgylchedd a meithrin gwerthfawrogiad dyfnach o’n treftadaeth leol a’n hadnoddau naturiol.”

Mae LNG South Hook yn rhoi cymorth ariannol i’r prosiect. Dywedodd y rheolwr cyffredinol, Hamad Al Samra: “Mae ein partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn arbennig iawn. Drwy’r prosiect Gwreiddiau, mae plant yn profi rhyfeddodau ein hamgylchedd lleol, ac yn South Hook, rydym yn hynod falch o fod yn rhan o’r profiadau dysgu cofiadwy hyn.”

Wrth i’r prosiect fynd rhagddo, bydd yn canolbwyntio ar Afon Cleddau, gan ddefnyddio cynefinoedd cyfoethog yr afon a’i bioamrywiaeth i feithrin brwdfrydedd yr ysgolion a’r cymunedau, gan sicrhau bod yr ymwybyddiaeth amgylcheddol a’r stiwardiaeth yn Sir Benfro yn tyfu’n barhaus.

South Hook LNG
Roots Apple Day Event
“Through the Roots initiative, we are proud to support an education programme that engages children in the outdoors, creating opportunities to connect with the varied landscapes, communities and food networks that exist in this very special County.” South Hook LNG

Partner elusen yr ŵyl

THE BIG RETREAT

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wrth ei bodd o gael ei dewis yn bartner elusennol ar gyfer Gŵyl The Big Retreat ysblennydd Sir Benfro yn 2025 am y 4edd flwyddyn yn olynol.

Mae’r Big Retreat a gynhelir yng nghanol y Parc Cenedlaethol, yn cynnig y cyfle i ailgysylltu â chi’ch hun ac ag eraill, drwy gyfrwng cerddoriaeth fyw a chomedi a 200 a mwy o ddosbarthiadau a gweithdai ar ystod eang o bynciau, gan gynnwys ffitrwydd, ioga, nofio gwyllt, byw yn y gwyllt, arddangosiadau coginio, gweithdai jin, a chelf a chrefft.

Dywedodd Amber Lort-Phillips, Prif Weithredwr a Chyd-sylfaenydd yr Encil Fawr: “Rydym yn angerddol am fyd natur a’r amgylchedd ac yn falch iawn o gefnogi Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sydd, fel ni a llawer o fusnesau eraill sy’n gweithredu yn y Parc Cenedlaethol, wedi ymrwymo i hyrwyddo cadwraeth, y gymuned leol, diwylliant a’r arfordir.

“Bydd hyd yn oed prynu tocyn yn gwneud i chi deimlo’n dda, gan y bydd yr ŵyl yn rhoi £1 i’r Ymddiriedolaeth am bob tocyn a werthir, fydd yn cael ei wario ar wella a chynnal gwaith cadwraeth hanfodol. Bydd hyn yn cynnwys plannu a gofalu am goetiroedd a chreu dolydd cyfeillgar i wenyn a glöynnod byw ar draws Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.”

Mae tocynnau’r ŵyl ar gael yn awr o www.thebigretreatfestival.com ar gyfer Gŵyl 2025, a gynhelir rhwng 23 a 26 Mai 2025.

Big Retreat
Lawrenny Cresswell River

“Pembrokeshire has some of the best beaches in the world and everyone should get the opportunity to enjoy them. We’re delighted that our donation will achieve this and that it will be enjoyed for many years to come.”
Valero

Cadair olwyn traeth pob tir

VALERO

Daeth Valero yn un o’n partneriaid aur ar ôl iddynt gyfrannu’n hael drwy roi dros £5,000 i brynu cadair olwyn traeth arbenigol ar gyfer pob math o dir. Bydd y gadair olwyn hon yn ymuno â fflyd o gadeiriau olwyn traeth ar draws Sir Benfro sy’n rhad ac am ddim i’w defnyddio. Mae’r offer wedi’i ddylunio a’i weithgynhyrchu yn arbennig i’w ddefnyddio ar draethau tywodlyd a thiroedd eraill yn yr awyr agored. Mae’r cadeiriau olwyn hyn yn helpu i chwalu rhwystrau, gwella lles iechyd meddwl, cynyddu rhyngweithio cymdeithasol, a magu mwy o ymdeimlad o annibyniaeth ymhlith y defnyddwyr.

Dywedodd Rheolwr Materion Cyhoeddus Valero, Stephen Thornton, “Mae gan Sir Benfro rai o’r traethau gorau yn y byd a dylai pawb gael y cyfle i’w mwynhau. Rydym mor falch y bydd ein rhodd yn galluogi i hyn ddigwydd ac y bydd y cyfleuster hwn yn cael ei fwynhau am flynyddoedd lawer i ddod.”

Ychwanegodd Elsa Davies, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro, “Bydd cael y cyfle i fwynhau anturiaethau newydd a diddorol drwy ddefnyddio cadair olwyn traeth yn dod â llawer iawn o bleser i lawer o bobl. Rydym yn ddiolchgar i Burfa Valero Penfro am eu blaengaredd a’u haelioni yn gwneud hyn i gyd yn bosibl, ac am hynny, diolchwn iddynt o galon, ynghyd â diolchiadau’r bobl fydd yn defnyddio’r gadair olwyn arbennig hon.”

Valero
Valero beach wheelchair donation