Her yr Arfordir Gwyllt
Her yr Arfordir Gwyllt
CERDDED • ARCHWILIO • GWARCHOD
Mae Her yr Arfordir Gwyllt yn estyn gwahoddiad i chi gerdded y 186 milltir syfrdanol o Lwybr Arfordir Sir Benfro, a gwneud gwahaniaeth go iawn i fyd natur ac i’r cymunedau lleol.
Mae’r her hon yn her i bawb, p’un a ydych yn ei chyflawni i gyd mewn un tro, dros sawl mis, neu drwy gydol y flwyddyn. Mae pob cam a gymerwch yn helpu i warchod tirweddau, bywyd gwyllt a threftadaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
EICH HER, EICH EFFAITH
Drwy godi dim ond £200, byddwch yn uniongyrchol yn cefnogi prosiectau cadwraeth a chymunedol hanfodol, gan sicrhau bod yr arfordir trawiadol hwn yn ffynnu am genedlaethau i ddod. Hefyd, byddwch yn ennill eich crys-t unigryw Her yr Arfordir Gwyllt – sy’n symbol o’ch llwyddiant a’ch ymrwymiad i warchod y lle arbennig hwn.
PAM CYMRYD RHAN?
I archwilio tirweddau syfrdanol – o glogwyni dramatig a thraethau euraidd i gildraethau cudd a phentrefi arfordirol hudolus.
Cefnogi gwaith cadwraeth hanfodol – gan gynorthwyo bywyd gwyllt a chynefinoedd i ffynnu.
Rhoi her i chi eich hun – cerdded, rhedeg, neu heicio, a hynny wrth eich pwysau.
Ymuno â chymuned angerddol – cysylltu â chyd-anturiaethwyr a hyrwyddwyr cadwraeth.

Cymerwch y Cam Cyntaf
Yn barod i wneud i bob milltir gyfrif? Beth am greu eich tudalen Just Giving heddiw a chychwyn ar eich taith!
Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy e-bost yn cymorth@ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru
Ymunwch â Her yr Arfordir Gwyllt, gan fod pob cam a gymerwch yn helpu i warchod yr arfordir anhygoel hwn. 💙