Rhoi Rhodd yn Rheolaidd

Elusen yw Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a sefydlwyd i hyrwyddo cadwraeth, cefnogi ein cymunedau lleol a gwarchod arfordir a diwylliant rhyfeddol y dirwedd eiconig hon. Drwy sefydlu rhodd reolaidd, gallwch helpu i arwain y ffordd i warchod harddwch unigryw y Parc Cenedlaethol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Gyda’n gilydd

GALLWN WNEUD GWAHANIAETH

Pan fyddwch chi’n rhoi rhodd yn rheolaidd, rydych chi’n ymuno â rhwydwaith ymroddedig o gefnogwyr, arbenigwyr a gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n ddiflino i warchod rhywogaethau, cynefinoedd, adeiladau hanesyddol a safleoedd archaeolegol pwysig y Parc Cenedlaethol. Gyda’ch cymorth chi, gallwn barhau i ofalu am yr arfordir, creu cyfleoedd ar gyfer dysgu a gwirfoddoli, a gwneud y trysor naturiol hwn yn hygyrch i bawb.

GWARCHOD YR HYN SY'N ARBENNIG

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn fwy na dim ond tirwedd; mae’n amgylchedd byw, yn gyfoethog mewn bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol.

Mae eich rhodd reolaidd yn ein helpu i gyflawni’r canlynol:

Trees and soil

Cynefin

Gwarchod ac adfer cynefinoedd hanfodol, o glogwyni’r arfordir i ddolydd blodau gwyllt.
People Running

Rhywogaethau Prin

Gwarchod rhywogaethau prin a bregus megis y gardwenynen feinlais a’r frân goesgoch.
Plant in soil

Rhywogaethau Ymledol

Rheoli rhywogaethau ymledol sy’n bygwth planhigion brodorol ac anifeiliaid.
Leaves in house

Safleoedd Hanesyddol

Gwarchod safleoedd hanesyddol y Parc, gan gadw etifeddiaeth ein gorffennol yn fyw.

GALLUOGI PAWB I FWYNHAU'R PARC CENEDLAETHOL

Credwn bod yr awyr agored yn hanfodol er budd llesiant. Mae Arfordir Sir Benfro yn cynnig rhywbeth i bawb – boed yn daith gerdded heddychlon neu’n daith gerdded egnïol llawn cyffro ar hyd yr arfordir.

Gyda’ch cymorth rheolaidd chi, gallwn gyflawni’r canlynol:

PCNPT Walkers

Gwella Mynediad

Improve access to trails, viewpoints and natural attractions, ensuring people of all abilities can experience the coast.Gwella mynediad i’r llwybrau, y golygfannau a’r atyniadau naturiol, gan sicrhau bod pobl o bob gallu yn cael profiad o’r arfordir.
Reading person

Adnoddau a Gwybodaeth

Rhoi adnoddau a gwybodaeth i helpu ymwelwyr wneud y gorau o’r Parc yn ddiogel ac yn gyfrifol.

Ysbrydoli’r

GENHEDLAETH NESAF

Mae eich rhoddion yn ein helpu i redeg prosiectau dysgu yn yr awyr agored sy’n cysylltu plant a phobl ifanc â’r byd naturiol o’u cwmpas. Ein nod yw lleihau amser sgrîn a chynyddu “amser gwyrdd,” fel y gall mwy o bobl ifanc brofi buddion meddyliol a chorfforol byd natur.

South Hook LNG Johnston School Meadows National Park

“Gofalu am Ein Harfordir: Cefnogi Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro”

Family

Gweithio Gyda’n Gilydd i

DDIOGELU ARFORDIR SIR PENFRO

Ni allwn wneud hyn ar ben ein hunain. Mae’r Ymddiriedolaeth yn gweithio law yn llaw â phartneriaid lleol, tirfeddianwyr, grwpiau cymunedol, a busnesau. Gyda’n gilydd, rydym yn rym dros gadwraeth, gan warchod ein harfordir a drysorir ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
PCNPT dail mewn llaw

Beth am Ddangos eich Cefnogaeth

DRWY ROI RHODD

Drwy sefydlu rhodd fisol reolaidd, rydych yn helpu i sicrhau ffynhonnell gyson o gyllid sy’n ein galluogi i gynllunio a chyflawni prosiectau yn hyderus. Mae pob rhodd yn gwneud gwahaniaeth. Mae eich rhodd, boed yn fisol neu’n untro, yn chwarae rhan holl bwysig mewn gofalu am y lle arbennig hwn.

Beth am ddod yn Gefnogwr Rheolaidd Heddiw

Yn barod i warchod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro?

Beth am drefnu eich rhodd reolaidd heddiw a bod yn rhan o rywbeth parhaol a phellgyrhaeddol ei effaith.