DP Energy yn pweru cadwraeth gyda phartneriaeth elusennol y Parc Cenedlaethol

Posted On : 08/08/2023

Mae’n bleser gan Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro gyhoeddi partneriaeth newydd gyda’r cwmni ynni adnewyddadwy o Iwerddon, DP Energy, sydd wedi ymgartrefu yn y DU yn Noc Penfro.

Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Rydyn ni wrth ein bodd bod DP Energy wedi dewis bod yn Bartner Arian a helpu yn ein cenhadaeth i gefnogi cadwraeth, cymuned a diwylliant yn y Parc Cenedlaethol.”

Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth i ddiogelu tirweddau trawiadol y Parc Cenedlaethol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae gan DP Energy, sydd â’i bencadlys yn Cork, dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector ynni adnewyddadwy byd-eang ac mae wedi datblygu dros 1GW (1,000MW) o brosiectau ynni adnewyddadwy, sydd wedi’u hadeiladu ac yn weithredol. Ar hyn o bryd, mae ganddo dros 9GW o brosiectau ynni gwynt ar y tir ac ar y môr, solar ac ynni cefnforol ar y gweill ar draws Iwerddon, y DU, Awstralia a Chanada.

Mae DP Energy wedi bod yn gweithredu yn y DU ers y 1990au i gyflawni prosiectau ynni gwynt ar y tir, ac agorodd swyddfa yn Sir Benfro yn 2021. Yn 2022, ymunodd y cwmni â menter ar y cyd gydag EDF Renewables ar gyfer prosiect Fferm Wynt ar y Môr Arnofiol Gwynt Glas yn y Môr Celtaidd ac ar hyn o bryd mae’n datblygu portffolio ehangach o brosiectau yn y DU ac mewn marchnadoedd newydd.

Dywedodd Chris Williams, Pennaeth Datblygu’r DU a Marchnadoedd Newydd DP Energy: “Mae DP Energy yn falch iawn o fod yn Bartner Arian Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro. Rydyn ni wedi ymrwymo 100% i ddefnyddio’r dulliau mwyaf cynaliadwy ac amgylcheddol gyfrifol yn ein holl ddatblygiadau ynni. Mae ein tîm yn Sir Benfro yn frwd dros gefnogi twf sector ynni newydd sy’n gallu cyrraedd targedau sero net a chynnal swyddi medrus sy’n talu’n dda ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, er budd cymunedau lleol. Rydyn ni’n hynod ffodus o fyw a gweithio yn y rhan brydferth hon o’r byd ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Ymddiriedolaeth ar eu cynlluniau i wella cadwraeth, cymuned a diwylliant yn y Parc Cenedlaethol.”

Ers 2021, mae’r Ymddiriedolaeth wedi cynnal rhaglen aelodaeth fusnes flynyddol, sy’n cynnig amrywiaeth o becynnau sy’n addas i fusnesau o bob maint a math.

Mae rhagor o wybodaeth am gynllun Partneriaid Arfordir Penfro ar gael yn https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/sut-gallwch-chi-helpu/partneriaid-arfordir-penfro/. Os hoffech chi drafod y cynllun ymhellach, cysylltwch â’r tîm drwy ffonio 01646 624811 neu anfon neges e-bost i support@pembrokeshirecoasttrust.wales.