Prosiectau cadwraeth wedi’u gyrru gan y gymuned yn ffynnu gyda grantiau Gweithredu dros Natur

Posted On : 22/03/2024

Mae naw o brosiectau lleol a gafodd help llaw gan grantiau Gweithredu dros Natur bellach yn ffynnu ac yn rhoi hwb angenrheidiol i fioamrywiaeth a chadwraeth, i’r frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd ac i argaeledd mannau gwyrdd ar hyd a lled y sir.

Roedd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn y rownd ddiwethaf o gyllid yn cynnwys: Coleg Sir Benfro, Ysgol Gynradd Stepaside, Cyngor Cymuned Llanhuadain, Canolfan Llesiant Dinas, Grŵp Gweithgareddau Simpson Cross, Eglwys Ddiwygiedig Unedig y Tabernacl United ym Mhenfro, ac Esteam yn The Warren.

Sawl mis yn ddiweddarach, mae’r grwpiau wedi darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am eu prosiectau, gan ddangos eu cynnydd rhyfeddol – o drawsnewid hen ardd eglwys yn gynefin amrywiol, i greu perllan treftadaeth Gymreig a dad-ddofi tir nad yw’n cael ei ddefnyddio ar gampysau addysg.

Gwnaed defnydd da o’r “Ardd drwy’r Oesoedd” yn Eglwys Ddiwygiedig Unedig y Tabernacl yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig. Cafodd ei defnyddio fel lleoliad ar gyfer atyniad cymunedol Llwybr y Geni, lle gallai teuluoedd lleol ddod i fwynhau golygfeydd a synau’r ŵyl, gan werthfawrogi’r gwelliannau i fioamrywiaeth sydd wedi cael eu gwneud.

Gosodwyd arwyddion derw ym mis Rhagfyr i nodi bod prosiect dad-ddofi tir yn Ysgol Harri Tudur wedi cael ei gwblhau, ac mae disgyblion blynyddoedd 7 ac 8 wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm ers hynny. Bydd yr arian sy’n weddill yn cael ei wario ar hadau a phlanhigion brodorol i wella mwy ar yr ardaloedd sydd newydd gael eu hadfer.

Cafodd gwelliannau i gampws Coleg Sir Benfro eu hamseru i gyd-fynd ag uwchgynhadledd COP28 yn ddiweddar, lle’r oedd diwrnod wedi’i neilltuo i fioamrywiaeth. Mae pob cynefin a llety i anifeiliaid, gan gynnwys blychau gwenoliaid duon, wedi cael eu gosod erbyn hyn, ac mae hadau blodau gwyllt wedi cael eu hau ar dir wedi’i baratoi.

Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Mae’r grantiau Gweithredu dros Natur yn darparu cymorth ariannol, wrth gwrs, ond maent hefyd yn effeithiol o ran meithrin ymdeimlad o gydgyfrifoldeb a stiwardiaeth ymysg cymunedau lleol.

“Mae dros 600 o oriau gwirfoddoli wedi cael eu cronni ar draws y naw prosiect, ac mae 15.95 erw o dir wedi cael ei wella.

“Mae wedi bod yn bleser gweld y prosiectau hyn yn tyfu ac yn dwyn ffrwyth, ac mae’n dangos sut gall camau bach ar lawr gwlad arwain at newid sylweddol er gwell.”

Sefydlwyd cynllun grantiau bach Gweithredu dros Natur yn 2021, ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i redeg gan Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro. Mae’n cynnig grantiau o hyd at £4,000 i brosiectau lleol yn y gymuned leol sydd naill ai’n cefnogi bioamrywiaeth, yn creu mannau gwyrdd newydd, neu’n gweithredu ym meysydd cadwraeth neu newid hinsawdd.

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun ar gael yn https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/.