Llefydd elusennol rhad ac am ddim IRONMAN Cymru ar gael i godwyr arian dewr


Os ydych chi’n frwdfrydig dros awyr agored Sir Benfro ac wrth eich bodd yn cyflawni profion corfforol anodd, mae gan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyfle i godi arian a fydd yn eich helpu i dicio’r ddau flwch.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn cynnig nifer gyfyngedig o gynigion am ddim i IRONMAN Cymru 2023, a fydd yn golygu bod miloedd o bobl yn rhoi cynnig ar nofio 2.4 milltir, beicio am 112 milltir a rhedeg/cerdded marathon ar hyd rhai o lwybrau mwyaf heriol De Sir Benfro fis Medi yma.

Dywedodd Elsa Davies LVO, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Arfordir Penfro: “Rydyn ni’n falch iawn o allu rhoi cyfle i bobl gymryd rhan yn y digwyddiad poblogaidd hwn, sydd bellach yn rhan o galendr chwaraeon Sir Benfro.

“Gydag IRONMAN Cymru yn cynnwys lefelau uchel o gyfranogiad lleol, byddai’n gyfle gwych i drigolion Sir Benfro yn y gorffennol a’r presennol gymryd rhan yn y digwyddiad a chefnogi achos a fydd yn diogelu ein Parc Cenedlaethol ac yn gwneud yn siŵr bod mwy o bobl yn gallu mwynhau ei awyr agored yn y dyfodol.”

Dywedodd Sandra Jones, sydd eisoes wedi cofrestru: “Rydw i eisiau codi arian i ddiogelu’r Parc Cenedlaethol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a sicrhau ei fod yn hygyrch i bawb.

“Rwyf wastad wedi mwynhau rhedeg, ond mae hyn yn fy ngwthio i gamu i fyd anghyfarwydd. Dyma’r flwyddyn o her i mi, triathlon bob mis yn arwain at IRONMAN 70.3 Abertawe ac yna’n wynebu’r her fwyaf – IRONMAN Cymru.”

Rhaid i’r rheini sydd â diddordeb mewn ymgymryd â’r her ymrwymo i godi o leiaf £500, a byddai angen i’r Ymddiriedolaeth dderbyn yr addewid erbyn 26 Mehefin 2023.

I gael rhagor o wybodaeth am IRONMAN Cymru, ewch i https://www.ironman.com/im-wales.

I gyfrannu at gyfanswm codi arian Sandra, ewch i https://www.justgiving.com/fundraising/sandra-jones50

Os hoffech chi fanteisio ar y cynnig i gael mynediad am ddim, dylid anfon datganiadau o ddiddordeb at support@pembrokeshirecoasttrust.wales.