Y rhandaliad olaf gan Ymddiriedolaeth Bannister i Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn garreg filltir o ran gwarchod coetiroedd

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro wedi cael y rhandaliad olaf o £10,000 gan Ymddiriedolaeth Bannister, sy’n dod â’r cyfanswm i £30,000 dros y tair blynedd ddiwethaf. Defnyddir y cyllid i gefnogi ymdrechion hanfodol i warchod coetiroedd y Parc Cenedlaethol. Mae’r cyllid hwn wedi chwarae rhan arwyddocaol o ran gwella tirweddau naturiol Sir Benfro, cynnal bioamrywiaeth, a diogelu cynefinoedd hanfodol.


Mae Ymddiriedolaeth Bannister wedi rhoi £30,000 i Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro dros y tair blynedd diwethaf i ariannu ymdrechion ar gyfer adfer coetiroedd ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cyfraniadau Ymddiriedolaeth Bannister wedi galluogi’r gwaith o gynnal amrywiaeth o brosiectau sydd wedi bod o fudd i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, gan greu cydbwysedd hollbwysig rhwng y gwaith o ehangu gorchudd coetiroedd a gwarchod cynefinoedd hanfodol eraill. Mae’r ymdrechion hyn yn cefnogi bioamrywiaeth a’r broses o ddal a storio carbon, a hefyd yn meithrin cadernid ecolegol.

Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth Bannister am eu cymorth cyson. Mae eu haelioni wedi ein galluogi ni i ymgymryd â phrosiectau cadwraeth hanfodol sy’n canolbwyntio ar adfywio naturiol a phlanhigion newydd. Mae pob cynllun wedi cael ei ddylunio i ddiwallu anghenion penodol sydd gan wahanol rywogaethau, gan chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o ddiogelu ac adfer yr ecosystem yn ei chyfanrwydd.”

Mae llwyddiannau 2024 yn cynnwys plannu dros 2,000 o goed brodorol ger Wdig, a chreu coridor 270 metr ar lan afon ger Llandyfái. Darparwyd offer hefyd i staff a gwirfoddolwyr yng Nghastell Caeriw i gynnal a chadw gwrychoedd wedi’u hadfer a choed a blannwyd yn ddiweddar, gan sicrhau bod llwybrau hedfan tywyll ar gael ar gyfer yr ystlumod o bwys rhyngwladol sy’n byw yno.

Yn Rhosfach, cynefin hanfodol i frith y gors a thitw’r helyg, gosodwyd ffensys i warchod coetiroedd helyg, gan ganiatáu i wartheg Dexter bori’r glaswelltiroedd corsiog. Ar safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn Mynachlog-ddu, ailgyflwynwyd dulliau pori traddodiadol ar gyfer gwartheg, gyda ffensys yn gwarchod coed i adfywio’n naturiol a llain gysgodi sydd o fudd i fywyd gwyllt, sy’n gweithredu fel rhwystr bioddiogelwch, ac sy’n cysylltu coetiroedd ar lan afonydd ar gyfer dyfrgwn.

Mae’r llwyddiannau eraill eleni’n cynnwys plannu 100 o goed ym Mhen-caer i wella cysylltedd cynefinoedd, a chysylltu dyffryn sy’n gyforiog o rywogaethau ym Mhontfaen â SoDdGAau coetir hynafol gerllaw drwy adfer 90 metr o wrychoedd.

Ychwanegodd Katie Macro: “Bydd y gweithgareddau hyn yn cynnal yr enillion a wnaed yn y blynyddoedd blaenorol, ac yn sicrhau bod cynefinoedd coetir a gwrychoedd Sir Benfro yn parhau i ffynnu am genedlaethau i ddod. Mae cefnogaeth Ymddiriedolaeth Bannister wedi bod yn ganolog i’r ymdrechion hyn, ac edrychwn ymlaen at gwblhau’r prosiectau hyn gyda’r rhan olaf o’u cyllid hael.”

Mae’r cynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod yn canolbwyntio ar wella cysylltedd cynefinoedd a chefnogi rhywogaethau allweddol ar draws sawl lleoliad. Bydd gwrychoedd newydd a choed yn y caeau yn cael eu plannu o gwmpas Mynyddoedd y Preseli i greu llwybr hedfan hollbwysig rhwng Coedwig Pengelli a’r Cleddau Ddu, gyda’r nod o gysylltu dwy boblogaeth fridio o ystlumod du, yr unig rai y gwyddys amdanynt yng Nghymru. Yn Freshwater East a Chreseli, bydd ehangu’r gwrychoedd yn gwella cynefinoedd ar gyfer y glöyn byw prin, y brithribin brown, tra bydd gwrychoedd lletach yn y Garn yn gynefin ychwanegol i’r bras melyn, rhywogaeth sy’n bryder cadwraethol.

Ymhlith yr ymdrechion ychwanegol fydd plannu coed ar ymyl y ffordd a pherthi newydd yn Abereiddi ac yn Amroth i gysylltu cynlluniau gwrychoedd presennol, ynghyd â phlannu yn y cae ym Mhen Strwmbwl i greu tirwedd mwy amrywiol o ddolydd a choed. Y gobaith yw y bydd cloddiau newydd ym Mynachlog-ddu ac yng Nghas-mael yn cynnal titw’r helyg ac yn diogelu safleoedd SoDdGA rhag effeithiau amaethyddol. Ac yn olaf, mae cynlluniau ar droed i blannu coed ym Mrynberian i gysylltu Gwarchodfa Natur Tŷ Canol â safleoedd eraill o goetir, gan ffurfio coridorau bywyd gwyllt sy’n hanfodol i hwyluso symudiad rhywogaethau ac amrywiaeth enynnol.