Cwmnïau yn Rhoi
Drwy weithio gyda ni, bydd eich busnes yn ein helpu i gefnogi a chyflawni prosiectau ar hyd a lled Sir Benfro. Gyda’n gilydd, byddwn yn cefnogi adfer byd natur, yn cryfhau cymunedau, ac yn gwarchod ei threftadaeth gyfoethog. Bydd eich cydweithrediad nid yn unig yn helpu i sicrhau harddwch naturiol Sir Benfro ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ond hefyd yn gwella lles gweithwyr ac yn gymorth i ymgysylltu â chwsmeriaid.
Sut i
CEFNOGI NI
Dod yn Bartner Arfordir Penfro
Ariannu prosiect
Dewis ni fel Elusen y Flwyddyn
Y staff yn codi arian
Rhoi drwy’r gyflogres staff
Gwirfoddoli
Ychydig o
BUDDIANNAU
Ymgysylltu â’r Gweithwyr a Boddhad Gweithwyr
Cysylltiadau Cyhoeddus Cadarnhaol
Cyfleoedd Rhwydweithio
Effaith Hirdymor
Grymuso Gweithwyr
Dod yn
BARTNER ARFORDIR PENFRO
Ein cynllun Partneriaid Arfordir Penfro yw ein rhaglen flynyddol o aelodau busnes. Rydym am weithio gyda chi a’ch busnes i ddatblygu partneriaeth fuddiol i chi ac i ninnau sy’n helpu i ddiogelu’r Parc Cenedlaethol, heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae gennym 3 pecyn gwahanol i weddu pob maint a math o fusnes.
Efydd – £500
Defnyddio ein logo cefnogwr Arfordir Penfro
Cydnabyddiaeth ar-lein fel Partner Efydd – Arfordir Penfro, gan gynnwys enw’r cwmni a dolen i wefan y cwmni
Cyfeiriad atoch yn ein e-gylchlythyr chwarterol i’r cefnogwyr
Rhannu ar draws ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol
Eich rhestru yn ein Hadroddiad Effaith blynyddol; a rennir gyda’n holl gefnogwyr a chyllidwyr
Arian – £1,000
Defnyddio ein logo cefnogwr Arfordir Penfro
Cydnabyddiaeth ar-lein fel Partner Arian – Arfordir Penfro – gan gynnwys logo’r cwmni a dolen i wefan y cwmni
Cyfeiriad atoch yn ein e-gylchlythyr chwarterol i’r cefnogwyr
Rhannu ar draws ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol
Eich rhestru yn ein Hadroddiad Effaith blynyddol; a rennir gyda’n holl gefnogwyr a chyllidwyr
Gwahoddiad i ymuno â ni yn ein digwyddiadau allweddol i gefnogwyr
Aur – £5,000
Defnyddio ein logo cefnogwr Arfordir Penfro
Cydnabyddiaeth ar-lein fel Partner Aur Arfordir Penfro – gan gynnwys logo’r cwmni, disgrifiad a dolen i wefan y cwmni
Sawl cyfeiriad atoch yn ein e-gylchlythyr chwarterol i’r cefnogwyr
Rhannu ar draws ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol
Eich logo a’ch rhestru yn ein Hadroddiad Effaith blynyddol; a rennir gyda’n holl gefnogwyr a chyllidwyr
Gwahoddiad i ymuno â ni yn ein digwyddiadau allweddol i gefnogwyr a 2 le am ddim
Cyfle i drefnu diwrnod gwirfoddoli corfforaethol pwrpasol ar gyfer eich busnes
Cymorth pwrpasol drwy’r cyfryngau a’r wasg i wneud y mwyaf o effaith eich partneriaeth â ni
Noddi
GORSAF DDŴR
Ymunwch â ni i hyrwyddo cynaliadwyedd ar draws Sir Benfro drwy noddi gorsaf dŵr yfed mewn partneriaeth â’r Parc Cenedlaethol. Mae gennym 8 lleoliad ar rai o draethau mwyaf poblogaidd Sir Benfro:
Gogledd Aber Llydan
Gorllewin Amroth
Porth-glais
Pwllgwaelod
Nolton Haven
Freshwater East
Abercastll
Sain Ffraid

Manylion Nawdd
Am £1,500, gallwch noddi gorsaf ddŵr am flwyddyn, gan roi cyfle hanfodol i ddegau o filoedd o ymwelwyr a thrigolion lleol gael dŵr yfed.
Mae eich nawdd yn cynnwys y canlynol:
- Bwrdd hysbysebu wedi’i frandio mewn lleoliad o’ch dewis.
- Cydnabyddiaeth chwarterol ar draws ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
- Cyfleoedd gwirfoddoli i’ch tîm.
- Sylw penodedig ar ein gwefan.
- Gwahoddiadau i ddigwyddiadau unigryw.
- Beth am gefnogi’r fenter hon a chael effaith barhaol ar ein cymuned a’n hamgylchedd!
I gael gwybod mwy, cysyllwtch Katie ar 01646 624808 neu katiem@pembrokeshirecoast.org.uk
Noddi
CADAIR OLWYNN TRAETH
Ymunwch â ni i hyrwyddo Sir Benfro sy’n hygyrch i bawb drwy noddi cadair olwyn traeth. Gyda 14 o gadeiriau olwyn traeth eisoes ar gael, ein nod yw ehangu’r fenter hon, gan sicrhau y gall trigolion ac ymwelwyr fwynhau harddwch syfrdanol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn llawn. Gyda’n gilydd, gallwn wneud pob cornel o’r parc yn fwy hygyrch.

Manylion Nawdd
Am £7,000, gallwch noddi cadair olwyn traeth, gan agor mynediad i un o draethau godidog Sir Benfro i drigolion ac ymwelwyr ei fwynhau.
Mae eich nawdd yn cynnwys y canlynol:
- Eich brandio ar gadair olwyn y traeth
- Cydnabyddiaeth chwarterol ar draws ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
- Cyfleoedd gwirfoddoli i’ch tîm.
- Sylw penodedig ar ein gwefan.
- Gwahoddiadau i ddigwyddiadau unigryw.
- Cefnogwch y fenter hon a chael effaith barhaol ar ein cymuned
I gael gwybod mwy, cysyllwtch Katie ar 01646 624808 neu katiem@pembrokeshirecoast.org.uk
Gwarchod ein
COETIROEDD
Helpwch ni i ddod â’r prosiect Gwyllt am Goetiroedd yn fyw. Drwy gefnogi’r fenter hollbwysig hon, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o adfer ac ehangu cynefinoedd coetir a gwrychoedd o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gan helpu byd natur i ffynnu, a sicrhau’r ecosystemau gwerthfawr hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Manylion Nawdd
Am gyn lleied â £26,000, gallwch ein helpu i blannu 1,000 o goed ychwanegol a 7,000 o blanhigion gwrychoedd eleni, gan greu cynefinoedd ffyniannus ar gyfer bywyd gwyllt a gwneud y dirwedd yn fwy cydnerth i’r newidiadau amgylcheddol.
Mae eich nawdd yn cynnwys y canlynol:
- Dau ddatganiad i’r wasg wedi’u teilwra i amlygu cyfraniad eich busnes i’r prosiect, wedi’u dosbarthu i’r cyfryngau lleol a rhanbarthol.
- Diwrnod gwirfoddoli ymarferol i’r staff, lle gall eich tîm gymryd rhan mewn gweithgareddau cadwraeth megis plannu coed neu gynnal a chadw gwrychoedd, meithrin gwaith tîm a chysylltiad â natur.
- Logo eich busnes a gair arbennig o ddiolch ar ein gwefan, yn cydnabod eich cefnogaeth i’n cynulleidfa eang.
- Diwrnod cerdded a sgwrsio i’r staff, neu gyflwyniad rhithiol gan un o’n Swyddogion Cadwraeth arbenigol. Bydd y diwrnod hwn yn rhoi golwg o lygad y ffynnon ar gynnydd y prosiect, ei bwysigrwydd, a’i effaith ar yr amgylchedd.
- Datganiadau chwarterol ar draws ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, sy’n arddangos eich busnes fel cefnogwr allweddol cadwraeth yn Sir Benfro.
- Adroddiad blynyddol yn manylu ar lwyddiant ac effaith y prosiect.
I gael gwybod mwy, cysyllwtch Katie ar 01646 624808 neu katiem@pembrokeshirecoast.org.uk
Cwestiynau?
I gael gwybod mwy, cysyllwtch Katie ar katiem@pembrokeshirecoast.org.uk