Er gwaethaf y glaw di-baid, ymunodd 30 o wirfoddolwyr ag Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro ar draeth Llanrath ddiwedd mis Ionawr ar gyfer sesiwn glanhau traeth lwyddiannus, gan brofi nad yw tywydd gwael yn rhwystr i ddiogelu arfordir Sir Benfro.
The clean brought together local businesses including Howies, The Celtic Collection, Andrew Rees Butchers, Monddi, Penfro Consultancy, and the Field Studies Council, alongside members of the local community and staff from Pembrokeshire Coast National Park Authority.
Daeth y sesiwn â busnesau lleol ynghyd, gan gynnwys Howies, The Celtic Collection, Andrew Rees Butchers, Monddi, Penfro Consultancy, a’r Cyngor Astudiaethau Maes, ochr yn ochr ag aelodau o’r gymuned leol a staff o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Yn ystod y prynhawn, casglodd y gwirfoddolwyr 12 bag o sbwriel a hen deiar car, gan helpu i gael gwared ar wastraff niweidiol o’r traeth a diogelu bywyd gwyllt lleol a chynefinoedd morol.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a ddaeth allan mewn tywydd mor heriol,” meddai Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro. “Mae’r brwdfrydedd a’r penderfyniad a ddangoswyd gan y gwirfoddolwyr a’r busnesau yn dangos cymaint y mae pobl yn gwerthfawrogi ein harfordir. Mae pob bag o sbwriel sy’n cael ei dynnu yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
“Hoffem ddiolch yn arbennig i Kerry o Gadwch Gymru’n Daclus am ymuno â’r sesiwn a chynnig cefnogaeth ar y diwrnod, yn ogystal ag i Abi Marriott, y Swyddog Ariannu a drefnodd y digwyddiad, a’r Ymddiriedolwr Mickey a ddaeth draw i gefnogi.”
Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn trefnu sesiynau glanhau traethau a chyfleoedd gwirfoddoli yn rheolaidd er mwyn helpu i ddiogelu arfordir y sir. Mae’r sesiynau hyn hefyd yn cynnig cyfle i bobl gysylltu â natur, rhoi rhywbeth yn ôl i’r amgylchedd, a chydweithio er mwyn sicrhau Sir Benfro lanach ac iachach.
Bydd y sesiwn glanhau traeth nesaf yn cael ei chynnal ddydd Iau 4 Mehefin, ac anogir busnesau lleol, grwpiau cymunedol, a gwirfoddolwyr i gymryd rhan.
I gael rhagor o wybodaeth am sesiynau glanhau traethau yn y dyfodol a chyfleoedd gwirfoddoli, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/gwirfoddoli neu dilynwch Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro ar y cyfryngau cymdeithasol.