Cyllid gan chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl yn cefnogi byd natur a phobl ar hyd a lled Sir Benfro

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro wedi cefnogi’r gwaith o gyflawni amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol a chadwraethol ar draws y Parc Cenedlaethol, diolch i gyllid gan chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl.

Mae’r grant wedi cefnogi cynllun rheoli dolydd traddodiadol ym mynwent Eglwys y Santes Fair yn Ninbych-y-pysgod, un o’r ychydig ddarnau o laswelltir heb ei wella sydd ar ôl yn yr ardal, ac ym mynwent Eglwys y Santes Florence, lle llwyddodd rhywogaethau fel milddail a’r bengaled i flodeuo a hadu ar ôl cael eu torri ddiwedd yr haf. Ym Marloes, defnyddiwyd hadau lleol i greu dôl newydd ar hen dir fferm, gan gysylltu â phyllau dŵr tymhorol, coed a phyllau wedi’u creu o’r newydd. Yn Nanhyfer, adferwyd dôl gyda dros 100 o rywogaethau planhigion ynddi drwy reoli prosesau torri-a-chasglu, gwella’r amodau ar gyfer merlod pori, a diogelu’r safle rhag planhigion goresgynnol.

Mae cadwraeth rhywogaethau hefyd wedi elwa ar y cyllid. Fe wnaeth gwirfoddolwyr yn y Garn ddefnyddio modrwyau newydd ar gyfer breision melyn i fonitro un o’r poblogaethau olaf o’r aderyn tir amaethyddol hwn yn Sir Benfro, sy’n dirywio’n gyflym. Mae dros 50 o adar eisoes wedi cael eu modrwyo, sy’n dangos pwysigrwydd y safle. Yng Nghwm Gwaun, aeth gwirfoddolwyr ati i dyfu planhigion tamaid y cythraul gyda chompost heb fawn, gan ehangu’r cynefin ar gyfer y glöyn byw prin, brith y gors, a darparu neithdar ar gyfer pryfed peillio.

Roedd y cyllid hefyd yn cefnogi Llwybrau, rhaglen sy’n galluogi pobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd i fynd ati i wirfoddoli â chymorth. Dros y flwyddyn, cynhaliwyd 83 o sesiynau, gan gyfrannu 865 o ddiwrnodau gwirfoddoli ar draws 30 safle. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys plannu coed, plygu gwrychoedd, clirio prysgwydd, creu cynefinoedd, ac archaeoleg gymunedol. Hefyd, darparwyd hyfforddiant i arweinwyr gwirfoddoli mewn meysydd fel cymorth cyntaf, cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, gan sicrhau cyfleoedd diogel, cynhwysol ac ystyrlon.

Ar ben hynny, cafodd y prosiect Awyr Agored gymorth i gynnal grwpiau cerdded llesiant i rieni newydd ac i bobl ag anableddau neu anghenion dysgu ychwanegol. Yn ystod y flwyddyn, cynhaliwyd 42 taith gerdded mewn lleoliadau gan gynnwys Cei Ystangbwll, Rhos-y-bwlch ac Aberllydan, gyda dros 290 o gyfranogwyr yn elwa. Roedd offer arbenigol fel pramiau, cadeiriau olwyn glan môr, a fframiau cerdded ar olwynion wedi helpu i wneud y teithiau cerdded yn hygyrch. Dywedodd un cyfranogwr: “Roeddwn i’n teimlo’n normal am y tro cyntaf ers pum mlynedd. Roeddwn i’n gallu cerdded gyda fy ŵyr – doeddwn i ddim wedi meddwl y buaswn i fyth yn gwneud hynny eto.”

Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Diolch i chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl, rydyn ni wedi gallu cefnogi prosiectau sy’n gwarchod cynefinoedd a rhywogaethau arbennig, yn ogystal â chwalu rhwystrau er mwyn i fwy o bobl allu cysylltu â byd natur. Mae’r cyllid hwn wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd gwyllt ac i gymunedau ar hyd a lled Sir Benfro.”

Mae Ymddiriedolaeth Arfordir Penfro yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr – rhif elusen 1179281. I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn ei gefnogi a sut gallwch chi gyfrannu, ewch i www.ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru.