Mae rhedwyr o bob gallu yn cael eu gwahodd i wisgo eu hesgidiau rhedeg i gymryd rhan yn 10km Llys-y-Frân, sef ras newydd sbon yn amgylchedd trawiadol Parc Gwledig Llys-y-Frân, i gefnogi Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro.
Cynhelir y digwyddiad mewn partneriaeth ag AspireX Events, ac mae’n addo llwybr hyfryd a gwerth chweil o amgylch y gronfa ddŵr a’r ardal wledig gyfagos, gan gynnig her wych i redwyr profiadol ac i’r rhai sy’n rhedeg ras 10k am y tro cyntaf.
Dywedodd Jay Skipper o AspireX Events: “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ddod â’r gyfres Run The Trails i Sir Benfro. Mae Llys-y-Frân yn lleoliad hyfryd ac yn ychwanegiad gwych at y calendr. Allwn ni ddim aros i weld pawb yno ar y diwrnod.”
Mae’n bleser gan yr Ymddiriedolaeth gyhoeddi bod Pure West Radio wedi ymuno fel Noddwr Cyfryngau. Hon yw’r orsaf radio fwyaf poblogaidd yn Sir Benfro, gyda’r cyrhaeddiad wythnosol mwyaf o unrhyw safle cyfryngau yn y sir ar draws ei llwyfannau. Mae gorsaf Pure West Radio yn darlledu bob awr o’r dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, ac mae’n cael ei rhedeg gan dîm o bobl leol frwdfrydig, sy’n darparu cynnwys ar yr awyr ac ar-lein. Felly, gall rhedwyr a chefnogwyr ddisgwyl digon o sylw yn y cyfnod cyn y digwyddiad, yn ogystal â darllediad byw ar y diwrnod.
Yn ogystal, mae Health Aspire yn cefnogi’r digwyddiad fel Noddwr Llogi Lleoliad. Ers 2014, mae Health Aspire wedi bod yn grymuso pobl drwy lesiant maethol, wedi’i ysbrydoli gan daith bersonol Ellen Green ac awch i helpu pobl eraill i ffynnu.
“Rydyn ni wedi cyffroi’n lân i fod yn rhan o 10km Llys-y-Frân,” meddai Katie Macro, Cyfarwyddwr Elusennau yn Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro. Mae digwyddiadau fel hyn yn ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd, annog gweithgarwch corfforol iach, a chodi arian hanfodol i gefnogi prosiectau cadwraeth, treftadaeth a mynediad ar draws Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i AspireX Events, Pure West Radio, Health Aspire, a phawb sy’n helpu i wneud y digwyddiad hwn yn bosibl.”
Mae cyfleoedd noddi yn dal ar gael, ac mae’r Ymddiriedolaeth yn awyddus i weithio gyda busnesau lleol yn Sir Benfro a fyddai’n hoffi cefnogi’r digwyddiad a chael sylw cadarnhaol ar yr un pryd.
The Trust is also offering free charity places for runners willing to pledge to raise £250, giving participants the Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn cynnig lleoedd elusennol am ddim i redwyr sy’n fodlon gwneud addewid i godi £250 – gan roi cyfle i gyfranogwyr gymryd rhan a mynd ati’n uniongyrchol i gefnogi prosiectau sy’n gwarchod bywyd gwyllt, yn gwella mynediad at natur, ac yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i ofalu am dirweddau arbennig Sir Benfro.
I gofrestru, ewch i:
https://www.aspirexevents.com/e/rtt-llys-y-fran-trail-10k-14972
I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd noddi neu am leoedd elusennol am ddim, cysylltwch â Katie Macro: katiem@arfordirpenfro.org.uk, neu dilynwch Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd digwyddiad llwybr 10km newydd a godidog yn Llys-y-Frân yn helpu i godi arian i ddiogelu a gwella Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.