Polisi Preifatrwydd

Sut ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Diben yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw rhoi gwybod i chi sut y bydd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gofalu am eich gwybodaeth bersonol.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Y wybodaeth a ddywedwch wrthym amdanoch chi eich hun.
  • Gwybodaeth yr ydym yn ei dysgu amdanoch chi drwy eich cael yn gefnogwr neu’n gwsmer neu’n bartner, gweithiwr, gwirfoddolwr neu’n ddefnyddiwr gwasanaeth.  
  • Y dewisiadau a roddwch i ni ynghylch pa farchnata neu wybodaeth am yr elusen yr ydych am i ni ei roi i chi.

Mae’r hysbysiad hwn yn esbonio sut ydym yn gwneud hyn, ac yn dweud wrthych am eich hawliau preifatrwydd a’r modd y mae’r gyfraith yn eich diogelu chi. Gall yr hysbysiad hwn newid o bryd i’w gilydd, felly edrychwch ar ein gwefan bob hyn a hyn i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau.

PWY YDYM NI

Cafodd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ei chreu fel Sefydliad Corfforedig Elusennol ar yr 20fed o Orffennaf 2018.

Gallwch ddarganfod mwy amdanom ni ar wefan ar wefan y Comisiwn Elusennau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech gael rhagor o fanylion am y modd y defnyddiwn eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â ni ar 01646 624 808 neu anfon e-bost at cefnogi@ymddiredolaetharfordirpenfro.cymru.

Sut mae’r gyfraith yn eich diogelu

Mae eich preifatrwydd wedi’i ddiogelu yn ôl y gyfraith ac mae’r adran hon yn esbonio sut mae hynny’n gweithio.
Rydym yn nodi sut ydym yn bodloni mesurau atebolrwydd yn y gyfraith a sut ydym yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel yn ein Polisi Diogelu Data.

Eich hawliau

O dan reoliadau diogelu data mae gennych yr hawliau canlynol:

  1. Yr hawl i gael gwybod
  2. Yr hawl mynediad
  3. Yr hawl i gywiro
  4. Yr hawl i ddileu
  5. Yr hawl i gyfyngu ar brosesu
  6. Yr hawl i ddata fod yn gludadwy 
  7. Yr hawl i wrthwynebu
  8. Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.

Mae sail gyfreithlon prosesu yn dylanwadu ar ba hawliau sydd ar gael i’r unigolyn.

Rhesymau priodol (sail gyfreithlon) dros ddefnyddio eich data personol

Mae cyfraith Diogelu Data yn dweud y caniateir i ni ddefnyddio gwybodaeth bersonol dim ond os oes gennym reswm priodol (sail gyfreithlon) i wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys rhannu gwybodaeth bersonol gydag eraill y tu allan i’r Elusen.

Yn ôl y gyfraith mae’n rhaid i ni gael un neu fwy o’r rhesymau hyn:

  • I gyflawni contract sydd gennym gyda chi, neu
  • Pan fydd hynny yn ddyletswydd gyfreithiol arnom, neu
  • Pan fydd o fuddiant dilys i ni, neu
  • Pan fyddwch chi’n cydsynio â hynny.

Buddiant dilys yw pan fydd gennym reswm busnes neu fasnachol i ddefnyddio’ch gwybodaeth.

Mae rhesymau ychwanegol (sail gyfreithlon) y mae’n rhaid i’r Elusen eu bodloni wrth brosesu data categori arbennig.

Y data a gasglwn

Efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi neu’ch busnes o’r ffynonellau hyn:

Y data yr ydych chi yn ei roi i ni:

  • Pan fyddwch chi’n rhoi rhodd i ni
  • Pan fyddwch yn llenwi ffurflen yn mynegi diddordeb i glywed mwy neu i gefnogi’r Elusen
  • Pan fyddwch yn siarad â ni ar y ffôn, yn anfon e-bost neu lythyr atom
  • Pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan
  • Mewn e-byst a llythyrau
  • Pan fyddwch chi’n prynu neu’n ymrwymo i gontract gyda ni 
  • Pan fyddwch chi’n cofrestru i ddod yn rhan o rwydwaith neu grŵp a hwylusir gennym
  • Mewn hawliadau yswiriant neu ddogfennau eraill.

Y data a gasglwn wrth i chi ddefnyddio ein gwasanaethau:

  • Data talu a’r trafodion
  • Proffil a data defnydd ar-lein. Mae hyn yn cynnwys defnyddio cwcis pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan 
  • Data defnyddio ac ymgysylltu ar gyfer gwasanaethau.

Data oddi wrth drydydd partïon yr ydym yn gweithio gyda hwy:

  • Sefydliadau sydd yn eich cyfeirio atom
  • Partneriaid prosiect 
  • Yswirwyr 
  • Rhwydweithiau cymdeithasol 
  • Asiantaethau atal twyll
  • Asiantau tir 
  • Ffynonellau gwybodaeth gyhoeddus megis Tŷ’r Cwmnïau 
  • Asiantau sy’n gweithio ar ein rhan.

Y wybodaeth a gasglwn oddi wrthych chi a’r defnydd a wneir o’r wybodaeth

Ymddiriedolwyr

Y defnydd a wnawn o’ch gwybodaeth bersonol

Ein Rhesymau

Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon

Cadw mewn cysylltiad â chi a rhoi gwybodaeth i chi i gyflawni eich rôl

Ein Hamcanion Elusennol
Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Buddiant Cyfreithlon

Llywodraethu’r Elusen yn Effeithiol

Prosesu Taliadau Treuliau

Ein Hamcanion Elusennol
Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Buddiant Cyfreithlon

Tâl cydnabyddiaeth i’r Ymddiriedolwyr

Gwirfoddolwyr

Y defnydd a wnawn o’ch gwybodaeth bersonol

Ein Rhesymau

Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon

Prosesu eich cais gwirfoddolwr

Ein Hamcanion Elusennol
Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Buddiant Cyfreithlon

Llywodraethu’r Elusen yn Effeithiol

Cadw mewn cysylltiad â chi

Buddiant Cyfreithlon

Mae gwirfoddolwyr yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd

Teilwra profiadau gwirfoddoli a gwneud addasiadau rhesymol

Ein Hamcanion Elusennol
Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Buddiant Cyfreithlon
Cydsyniad – o ran data iechyd

Cynnig mwy o gyfleoedd gwirfoddoli. Cyflawni’r gofynion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Iechyd a Diogelwch

Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol

 

Monitro Cydraddoldeb

Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol

Cyflawni’r gofynion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010

Defnyddwyr y Gwasanaeth a Phartneriaid – Ar draws y Gwasanaethau

Y defnydd a wnawn o’ch gwybodaeth bersonol

Ein Rhesymau

Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon

Cysylltu â chysylltiadau perthnasol ar gyfer hawliau tramwy a rheoli cadwraeth

Ein Hamcanion Elusennol
Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Buddiant Cyfreithlon

Cyflawni ein Hamcanion Elusennol Darparu gwasanaethau yn effeithiol.

Cwsmeriaid, Cyflenwyr a Chontractwyr

Y defnydd a wnawn o’ch gwybodaeth bersonol

Ein Rhesymau

Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon

Prosesu Taliadau – gan gynnwys cysylltu â chi am y taliadau os oes angen

Contract
Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Buddiant Cyfreithlon

Prosesu Taliadau yn Effeithiol

Rheoli ein perthynas â chi neu eich busnes

Buddiant Cyfreithlon
Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Buddiant Cyfreithlon

Perthynas effeithiol â chyflenwyr, cwsmeriaid a chontractwyr

Asesu Tendrau

Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol

 

Cyflawni ein rhwymedigaethau sy’n deillio o unrhyw gontract a wneir rhyngoch chi a ni

Cyflawni Contractau

 

Gwybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gofynion archwilio ariannol

Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol

 

Ymgysylltu (gan gynnwys ar-lein) a Marchnata

Y defnydd a wnawn o’ch gwybodaeth bersonol

Ein Rhesymau

Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon

Cadw mewn cysylltiad â gwybodaeth am yr elusen

Cydsyniad – pan fyddwch yn cofrestru ar y rhestr bostio

Hyrwyddo Nodweddion Arbennig y Parc

Dadansoddi ymweliadau â’n gwefan

Buddiant Cyfreithlon
Cydsyniad – Polisi Cwcis

Ein galluogi i ddadansoddi a gwella profiad gwefan

Lluniau

Buddiant Cyfreithlon

Cydsyniad

Ein galluogi i roi cyhoeddusrwydd ac ymgysylltu pobl â’r gwaith a wneir gan yr Elusen

Cefnogwyr

Y defnydd a wnawn o’ch gwybodaeth bersonol

Ein Rhesymau

Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon

Prosesu eich rhodd

Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Buddiant Cyfreithlon

Cyflawni dibenion y Parc Cenedlaethol. Darparu gwasanaethau yn effeithiol.

Cadw mewn cysylltiad â chi am gyfleoedd i gefnogi’r Elusen

Cydsyniad

 

Llywodraethu ac Atebolrwydd

Y defnydd a wnawn o’ch gwybodaeth bersonol

Ein Rhesymau

Ein tasgau cyhoeddus neu ein buddiannau cyfreithlon

Prosesu ymholiadau, sylwadau, adborth a chwynion a gyflwynir gennych

Ein Hamcanion Elusennol
Ein Rhwymedigaethau Cyfreithiol
Buddiant Cyfreithlon

Cyflawni amcanion yr Elusen

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

Rydym yn adolygu ein cyfnodau o gadw gwybodaeth bersonol yn rheolaidd. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni gadw rhai mathau o wybodaeth am gyfnod penodol o amser, megis ar gyfer hawlio Rhodd Cymorth. Byddwn ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol ar ein systemau neu ar ffeil cyhyd ag y bo angen ar gyfer y gweithgaredd perthnasol, neu cyhyd ag y nodir mewn unrhyw gontract perthnasol sydd gennych gyda ni.

 phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol

Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol yn allanol â’r sefydliadau hyn ac am y rhesymau canlynol:

Sefydliadau

Ein Rheswm

Cyllid a Thollau EM, Rheoleiddwyr ac Awdurdodau eraill

Dibenion archwilio, canfod Twyll a throseddau

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Rydych wedi cydsynio i ddata gael ei rannu

Pobl yr ydych yn cytuno i ni rannu eich data â hwy

Rydych wedi cydsynio i ddata gael ei rannu

Sut ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i wneud penderfyniadau awtomataidd

Ar hyn o bryd nid ydym yn defnyddio eich gwybodaeth i wneud penderfyniadau awtomataidd. Os bydd hyn yn newid yn y dyfodol byddwn yn diweddaru’r adran hon o’r hysbysiad.

Os ydych yn dewis peidio â rhoi gwybodaeth bersonol

Efallai y bydd angen i ni gasglu gwybodaeth bersonol yn ôl y gyfraith, neu o dan delerau contract sydd gennym gyda chi.

Os byddwch yn dewis peidio â rhoi’r wybodaeth bersonol hon i ni, gall hynny beri oedi neu ein hatal rhag bodloni ein rhwymedigaethau. Hefyd gall olygu na allwn gyflawni tasgau sy’n gysylltiedig â gwasanaeth y bwriadwch ei ddefnyddio.

Byddai casglu unrhyw ddata sy’n ddewisol yn cael ei wneud yn glir adeg casglu’r data.

Cydsyniad a thynnu cydsyniad yn ôl

Lle mae angen cydsyniad unigolyn i brosesu gwybodaeth bersonol, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Yn gyffredinol, ni fydd cydsynio yn rhag-amod cyn gallu cofrestru i dderbyn gwasanaeth.

Gallwch dynnu eich cydsyniad yn ôl unrhyw adeg. Cysylltwch â ni os ydych am wneud hynny ar cefnogi@ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru.

Os byddwch yn tynnu eich cydsyniad yn ôl, efallai na fyddwn yn gallu darparu gwybodaeth neu wasanaethau penodol i chi. Os felly, byddwn yn rhoi gwybod i chi.

Sut i gael copi o’ch gwybodaeth bersonol

Gallwch gael mynediad i’ch gwybodaeth bersonol sydd gennym drwy ysgrifennu i’r cyfeiriad hwn:

Cyfarwyddwr
Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Parc Llanion
Doc Penfro
Sir Benfro
SA72 6DY

Neu anfonwch e-bost at: cefnogi@ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru.

Os oes angen cymorth arnoch i lenwi’r ffurflen, cysylltwch â: cefnogi@ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru.

Rhoi gwybod i ni os yw eich gwybodaeth bersonol yn anghywir

Os oes gennym wybodaeth amdanoch chi, gallwch ofyn i ni gywiro unrhyw gamgymeriadau drwy gysylltu â ni yn cefnogi@ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru, rhoi galwad ffôn i ni ar 01646 624808 neu ysgrifennu atom. Byddwn yn cymryd camau rhesymol i wirio cywirdeb y data sydd gennym a’i gywiro.

Beth os ydych am i ni roi’r gorau i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol?

Mae gennych yr hawl i wrthwynebu ein bod yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, neu i ofyn i ni ddileu, symud, neu roi’r gorau i ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol os nad oes angen i ni gadw’r wybodaeth.

Gall fod rhesymau cyfreithiol neu resymau swyddogol eraill pam fod angen i ni gadw neu ddefnyddio eich data. Ond dywedwch wrthym os ydych o’r farn na ddylem ei ddefnyddio.

Weithiau gallwn gyfyngu ar y defnydd a wnawn o’ch data. Mae hyn yn golygu na ellir ei ddefnyddio ond ar gyfer rhai pethau, megis hawliadau cyfreithiol neu i arfer hawliau cyfreithiol. Yn y sefyllfa hon, ni fyddem yn defnyddio nac yn rhannu eich gwybodaeth mewn ffyrdd eraill tra bod y wybodaeth yn gyfyngedig.

Gallwch ofyn i ni gyfyngu ar y defnydd o’ch gwybodaeth bersonol os:

  • Nad yw’n gywir
  • Y defnyddiwyd y wybodaeth yn anghyfreithlon ond nad ydych am i ni ei ddileu.
  • Nad yw’n berthnasol mwyach, ond eich bod am i ni ei gadw i’w ddefnyddio mewn hawliadau cyfreithiol.
  • Eich bod eisoes wedi gofyn i ni roi’r gorau i ddefnyddio’ch data ond eich bod yn aros i ni ddweud wrthych os caniateir i ni barhau i’w ddefnyddio.

Os ydych am wrthwynebu’r modd y defnyddiwn eich data, neu am ofyn i ni ei ddileu neu gyfyngu ar y modd yr ydym yn ei ddefnyddio, cysylltwch â ni yn cefnogi@ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru.

Cwcis

Ynglŷn â chwcis

Ffeiliau yw cwcis sydd yn aml yn cynnwys dyfeisiau adnabod unigryw, sy’n cael eu hanfon gan weinyddwyr gwe i borwyr gwe, ac yna gellir eu hanfon yn ôl at y gweinyddwr bob tro y bydd y porwr yn gofyn am dudalen o’r gweinydd.
Gellir defnyddio cwcis gan weinyddwyr gwe i adnabod ac olrhain defnyddwyr wrth iddynt we-lywio gwahanol dudalennau ar wefan, ac i adnabod defnyddwyr sy’n dychwelyd i wefan.
Gall cwcis fod yn gwcis “parhaus” neu’n gwcis “sesiwn”. Mae cwci parhaus yn cynnwys ffeil destun a anfonir gan weinydd gwe i borwr gwe, fydd yn cael ei storio gan y porwr, a bydd yn parhau i fod yn ddilys tan y dyddiad y daw i ben (oni bai bod y defnyddiwr yn ei ddileu cyn y dyddiad dod i ben). Bydd cwci sesiwn, ar y llaw arall, yn dod i ben ar ddiwedd sesiwn y defnyddiwr, pan fydd y porwr gwe yn cael ei gau.

Ynglŷn â’n cwcis ni

Pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan ni, mae nifer o gwcis yn cael eu storio yn eich porwr gwe. Mae’r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (Cyfarwyddeb Ewropeaidd) (Diwygio) 2011 (PECR) newydd, a ddaeth i rym ar 26 Mai 2011, yn golygu bod rhaid i ni gael eich caniatâd penodol chi cyn gosod cwcis.

Mae’r caniatâd hwn i’w gael o faner gychwynnol ar frig y dudalen hafan.

Hefyd rydym yn sicrhau bod gwybodaeth ar gael am natur y cwcis a ddefnyddiwn ar ein gwefan.

Mae deddfwriaeth PECR yn clustnodi un math o gwci, sy’n cael ei ddisgrifio fel cwci “cwbl angenrheidiol” ar gyfer gweithredu’r wefan, lle nad oes angen eich caniatâd chi fel defnyddiwr. Golyga hyn nad yw pob cwci arall yn “gwbl angenrheidiol,” a bydd gofyn cael eich caniatâd penodol chi ar gyfer y cwcis hyn. Isod mae esboniad ar y cwcis a ddefnyddir gan ein gwefan ni.

  1. Cwcis a ystyrir gennym yn “gwbl angenrheidiol”

Nid yw gwefan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn defnyddio unrhyw gwcis “cwbl angenrheidiol”.

  1. Cwcis eraill

Bydd defnyddio ein gwefan, ar hyn o bryd, yn arwain at osod nifer o gwcis eraill.

2.1 Dadansoddeg Google: Defnyddir y cwcis hyn gan feddalwedd dadansoddeg Google, ac mae pob un o’n tudalennau gwe yn eu defnyddio. Rydym yn defnyddio’r cwcis hyn i olrhain sut mae pobl yn defnyddio ein gwefan, ac mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod ein cynnwys yn berthnasol ac yn gyfredol. Gosodir cwcis gydag enwau sy’n dechrau “__ utm” gan ddadansoddeg Google ac anfonir y data a gedwir ganddynt i Google.

Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn Google Privacy Center a Cookies & Google Analytics

2.2 Twitter: Mae rhai tudalennau yn cynnwys data o Twitter, a bydd y tudalennau hyn yn gosod cwcis ychwanegol. Gall Twitter ddefnyddio cwcis sesiwn a chwcis parhaus i ddeall yn well sut ydych chi’n rhyngweithio â [eu] Gwasanaethau, i fonitro defnydd cyfanredol […] a llwybro traffig ar y we ar [eu] Gwasanaethau …
Am fanylion llawn am ddefnydd Twitter o gwcis, gweler Twitter Privacy Statement

2.3 Youtube: Mae rhai tudalennau yn cynnwys fideos o Youtube, a bydd y tudalennau hyn yn gosod cwcis ychwanegol. Gall Youtube ddefnyddio cwcis sesiwn a chwcis parhaus i ddeall yn well sut ydych chi’n rhyngweithio â [eu] Gwasanaethau, i fonitro defnydd cyfanredol […] a llwybro traffig ar y we ar [eu] Gwasanaethau …
Am fanylion llawn am ddefnydd Youtube o gwcis, gweler Youtube Privacy Statement

I gael rhagor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth newydd ynghylch cwcis, gweler Canllawiau Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (PDF).

Am wybodaeth ddefnyddiol am gwcis gan gynnwys sut y gellir eu dileu, gweler AboutCookies.org.

Isod mae rhestr o gwcis nodweddiadol y gellid eu gosod wrth ddefnyddio ein gwefan. Rhestr enghreifftiol yw hon ac nid yw’n gynhwysfawr.

Anfon data y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd

Byddwn ond yn anfon eich data y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (‘AEE’):

  • I gydymffurfio â dyletswydd gyfreithiol.
  • Pan fydd proseswyr data a ddefnyddir gennym yn anfon data y tu allan i’r AEE ond bod ganddynt fesurau diogelu perthnasol ar waith.

Os ydym ni neu brosesydd a ddefnyddir gennym yn trosglwyddo gwybodaeth y tu allan i’r AEE, byddwn yn sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei diogelu yn yr un modd â phetai’n cael ei defnyddio yn yr AEE. Byddwn yn defnyddio un o’r mesurau diogelu hyn:

  • Trosglwyddo’r wybodaeth i wlad nad yw’n wlad AEE sydd â chyfreithiau preifatrwydd sy’n rhoi’r un diogelwch â’r AEE. Dysgwch fwy ar wefan Cyfiawnder y Comisiwn Ewropeaidd
  • Rhoi contract ar waith gyda’r derbynnydd sy’n golygu bod yn rhaid iddo ei ddiogelu i’r un safonau â’r AEE. Darllenwch fwy am hyn yma ar wefan Cyfiawnder y Comisiwn Ewropeaidd,
  • Trosglwyddo’r wybodaeth i sefydliadau sy’n rhan o Tarian Preifatrwydd. Mae hon yn fframwaith sy’n gosod safonau preifatrwydd ar gyfer data a anfonir rhwng gwledydd yr Unol Daleithiau a’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n sicrhau bod y safonau hynny yn debyg i’r hyn a ddefnyddir yn yr AEE. Gallwch gael gwybod mwy am ddiogelu data ar wefan Cyfiawnder y Comisiwn Ewropeaidd.

16 neu iau

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd plant 16 oed neu iau. Os ydych yn 16 oed neu’n iau‚ a fyddech gystal â sicrhau eich bod yn cael caniatâd eich rhiant/ gwarcheidwad ymlaen llaw pryd bynnag y byddwch yn rhoi gwybodaeth bersonol i ni.

Sut mae gwneud cwyn

Rhowch wybod i ni os ydych chi’n anhapus â’r modd yr rydym wedi defnyddio’ch gwybodaeth bersonol. Cysylltwch â’n Cyfarwyddwr ar cefnogi@ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru.

Hefyd mae gennych yr hawl i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae gwybodaeth ar eu gwefan am sut i roi gwybod am bryder. Rhif eu llinell gymorth yw 0303 123 1113.