Mae’r rhedwraig eithafol, Sanna Duthie, wedi gosod Amser Cyflymaf Hysbys newydd ar gyfer Llwybr Arfordir Penfro, gan gwblhau’r Llwybr Cenedlaethol 186 milltir o hyd mewn 48 awr, 23 munud a 49 eiliad.
Roedd yr her anodd wedi mynd â Sanna o Lanrhath i Draeth Poppit, gan ddilyn yr arfordir trawiadol a delio â llethrau serth, tir garw, a rhai o rannau mwyaf agored y Parc Cenedlaethol. Mae ei champ yn curo ei hymgais flaenorol bedair blynedd yn ôl, ac mae’n tynnu sylw at ei dygnwch a’i phenderfyniad eithriadol.
Yn ystod ei thaith, brwydrodd Sanna yn erbyn blinder, tywydd amrywiol, a’r straen gorfforol o redeg bron i saith marathon gefn wrth gefn. Hyd yma, mae ei hymdrech wedi codi £2,610 tuag at Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro, sy’n ariannu prosiectau cadwraethol ac ymgysylltu hanfodol ar draws y Parc Cenedlaethol.
Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Mae dyfalbarhad a gwydnwch Sanna yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae cwblhau 186 milltir mewn llai na 49 awr yn gamp anhygoel, ac mae’r ffaith ei bod wedi codi dros £2,000 at Lwybr yr Arfordir yn gwneud ei champ yn fwy arbennig fyth. Bydd pob punt a godwyd ganddi yn cefnogi prosiectau cadwraeth ac ymgysylltu hanfodol.”
Dywedodd Sanna sut mae Llwybr yr Arfordir wedi bod yn rhan arbennig o’i bywyd erioed, gan ddisgrifio’r cysylltiad dwfn a’i denodd yn ôl i roi cynnig arall arni: “Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn lle arbennig a gwerthfawr iawn i mi. Rydw i wedi treulio cymaint o fy mywyd yn ei ddringo, ei redeg a’i gerdded, boed law neu hindda, drwy gydol y flwyddyn. Rydw i fel arfer yn rhedeg yno, gan sylwi drwy gydol y tymhorau ar y gwaith cynnal a chadw a chadwraethol parhaus sy’n rhaid ei wneud gan Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro er mwyn ei gadw ar agor i bob un ohonom ei ddefnyddio.
“Rydw i’n rhedeg Ultra Marathons am hwyl, ac wedi rhedeg Llwybr yr Arfordir yn ôl yn 2021 o ogledd Sir Benfro i dde Sir Benfro mewn 51 awr a 35 munud. Y tro hwn, roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n rhedeg o Dde Sir Benfro i Ogledd Sir Benfro wrth godi arian tuag at fy hoff le. Yn ffodus, gyda fy Amser Cyflymaf Hysbys diweddaraf (48 awr a 26 munud), rydw i bellach wedi teithio Llwybr yr Arfordir i’r ddau gyfeiriad ac wedi’i weld o bob cyfeiriad ac ym mhob tymor; mae wedi bod yn dda rhoi rhywbeth yn ôl i rywbeth sydd wedi rhoi cymaint i mi.”
Cafodd her ddiweddaraf Sanna ei chofnodi gan gwmni cynhyrchu lleol Kelp and Fern, a bydd yn cael sylw mewn rhaglen ddogfen sydd wrthi’n cael ei hôl-gynhyrchu.
Disgrifiodd Martin Larsen-Jones o Kelp and Fern y ffilm fel “ffilm i ymgolli ynddi, mae’n cofnodi Sanna Duthie wrth iddi geisio rhedeg Llwybr Arfordir gwyllt Penfro yn yr amser cyflymaf erioed. Taith o ddyfalbarhad, deheurwydd, a 48 awr o lwybr di-ildio sy’n profi ei chorff a’i hysbryd gyda phob cam.”
Cadwch lygad ar sianeli cyfryngau cymdeithasol yr Ymddiriedolaeth i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y dangosiad cyntaf.
Mae llwyddiant Sanna yn gosod Amser Cyflymaf Hysbys newydd, ond yn fwy na hynny mae hefyd yn tynnu sylw at un o Lwybrau Cenedlaethol mwyaf arbennig y DU – gan ein hatgoffa pam mae’r tirweddau hyn yn haeddu cael eu crwydro, eu mwynhau a’u gwarchod.
Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn gweithio i gadw’r etifeddiaeth honno’n fyw. Rhagor o wybodaeth yn https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/