Amdanom Ni

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen newydd felly dim ond dechrau mae ein stori ni. Credwn ei fod yn lle gwirioneddol ryfeddol ac rydym yn ymroddedig i’w gadw felly ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Gwyliwch ein fideo newydd

Ein hamcanion elusennol yw:

  • Hyrwyddo cadwraeth, gwarchodaeth a gwella Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r ardaloedd cyfagos gan gynnwys bywyd gwyllt yn y Parc Cenedlaethol.
  • Hyrwyddo’r addysg am bwysigrwydd y Parc Cenedlaethol, y bywyd gwyllt ynddo a’r tirweddau naturiol.
  • Hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol y cyhoedd, gan gynnwys annog pobl i gerdded a gwneud ymarfer corff yn y Parc Cenedlaethol.
  • Hyrwyddo, er mwyn darparu’r cyfleusterau ar gyfer hamdden neu amser hamdden arall er budd lles cymdeithasol a chyda’r nod o wella amodau bywyd.

Byddwn yn gwneud hyn trwy

Gwella mynediad i’r awyr agored gwych

Rydyn ni eisiau helpu cymaint o bobl â phosib, o bob oedran a gallu, i fwynhau a phrofi tirwedd ryfeddol Arfordir Sir Benfro. Byddwn yn gwneud hyn drw

  • Cefnogi prosiectau sy’n helpu i wella mynediad yn ein Parc Cenedlaethol
  • Datblygu mwy o wybodaeth am safleoedd ac atyniadau hygyrch yn y Parc Cenedlaethol a rhannu hyn gyda chymaint o bobl â phosibl.

Hybu bioamrywiaeth a chadwraeth

Rydym yn dymuno annog unigolion, sefydliadau a busnesau i gyfrannu tuag at wella cynefinoedd a galluogi bywyd gwyllt i ffynnu. Byddwn yn gwneud hyn drwy:

  • Helpu i sefydlu prosiectau newydd ac ymestyn cynlluniau cyfredol sy’n hyrwyddo bioamrywiaeth ar hyd y coridor arfordirol.
  • Nodi a rheoli Rhywogaethau Anfrodorol Goresgynnol (RhAG) fel y Ffromlys Chwarennog a Chlymog Japan drwy’r Parc Cenedlaethol.

Hybu dysgu yn yr awyr agored

Rydyn ni eisiau i bobl ifanc leihau eu hamser ar sgrin, codi allan i’r awyr agored a darganfod yr arfordir, y llwybrau cerdded a’r coetiroedd ar garreg eu drws. Byddwn yn gwneud hyn drwy

  • Cefnogi partneriaeth Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro
    Galluogi mwy o blant lleol i elwa o ddysgu yn yr awyr agored a deall sut a pham mae ein hamgylchedd ni mor bwysig ac angen ei warchod.

Cefnogi sgiliau a swyddi

Rydym yn dymuno rhoi cyfle i bobl ddysgu’r sgiliau a fydd yn eu paratoi i ddilyn gyrfa mewn gofalu am yr arfordir. Byddwn yn gwneud hyn drwy:

  • Ddarparu hyfforddeiaethau sy’n cynnwys sgiliau ymarferol i gefnogi pobl ifanc i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth leol.
  • Helpu busnesau twristiaeth i ddatgloi potensial cadwraeth eu tir a darparu hyfforddiant fel y gallan nhw chwarae rhan weithredol.

Gweithio gyda’n gilydd i ddiogelu’r Arfordir Penfro

Allwn ni ddim gwneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid, tirfeddianwyr, busnesau a sefydliadau cymunedol. Rydyn ni’n gryfach gyda’n gilydd; yn diogelu ein harfordir arbennig ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Ein Parc Cenedlaethol ni yw hwn…beth am weithio GYDA’N GILYDD i’w ddiogelu!