Polisi Cwynion

Polisi a Gweithdrefn Cwynion

Mae'n bwysig i ni glywed sut ydym wedi bod yn gwneud a sut allwn wella, neu pan fyddwn yn gwneud pethau'n anghywir, fel y gallwn ddysgu o hynny.

Bydd manylion pob cwyn yn cael eu cofnodi ar ffurflen gwyno a’u cofnodi mewn cofrestr cwynion i’w hadolygu a’u gwella’n barhaus. Adolygir pob cwyn bob chwarter. Er mwyn sicrhau gwelliant parhaus, dylid gwella’r prosesau, dylid cynnal unrhyw hyfforddiant angenrheidiol a dylid rhaeadru canlyniadau i’r cyhoedd lle bynnag y bo modd.

Sut allaf wneud cwyn?

Gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 01646 624808. Neu gallwch anfon e-bost atom yn cefnogi@ymddiredolaetharfordirpenfro.cymru ac, wrth gwrs, gallwch ysgrifennu atom yn:

Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Parc Llanion
Doc Penfro
Sir Benfro
SA72 6DY.

Rydym am sicrhau ein bod yn ymchwilio i’ch cwyn yn drylwyr ac yn rhoi ymateb amserol i chi, felly byddai’n ddefnyddiol pe gallech roi cymaint o wybodaeth â phosibl i ni wrth gysylltu â ni, gan gynnwys:

  • Y rheswm dros eich cwyn
  • Ble a phryd y digwyddodd
  • Enw(au) unrhyw un sy’n rhan o’r gŵyn (os yw’n hysbys)
  • Y canlyniad yr ydych yn gobeithio amdano
  • Eich manylion cyswllt (enw, cyfeiriad, rhif ffôn yn ystod y dydd a/neu e-bost).

Byddwn yn ceisio datrys y broblem cyn gynted â phosibl ac yn rhoi ymateb llawn i chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Fodd bynnag, o bryd i’w gilydd efallai y bydd angen ychydig o amser ychwanegol arnom i ymchwilio, ac os felly, byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd y dylech ddisgwyl clywed oddi wrthym.

Os, am unrhyw reswm, nad ydych yn fodlon â’r penderfyniad a wnaed ar eich cwyn, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Dywedwch wrthym pam nad oeddech chi’n fodlon â’n hymateb a beth yr hoffech i ni ei wneud i unioni pethau. Gallwch anfon e-bost at cefnogi@ymddiredolaetharfordirpenfro.cymru a’i nodi at sylw’r Cyfarwyddwr, neu gallwch ysgrifennu atom yn:

At sylw – Y Cyfarwyddwr
Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Parc Llanion
Doc Penfro
Sir Benfro
SA72 6DY.

Y Cyfarwyddwr sy’n gyfrifol am bob cwyn a dderbynnir gennym a bydd yn adolygu ac yn ymchwilio i’ch cwyn. Byddant yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad eu hymchwiliad cyn pen 7 diwrnod gwaith.

Os ydych yn dal yn anfodlon â’n hymateb ac yn dymuno mynd â’ch cwyn ymhellach, cysylltwch â’r Cyfarwyddwr cyn pen saith diwrnod gwaith o dderbyn eu hateb. Bydd eich cwyn wedyn yn cael ei throsglwyddo i Gadeirydd ein Bwrdd Ymddiriedolwyr fydd yn ymchwilio ymhellach i’ch cwyn, ac yna’n cysylltu â chi i roi gwybod am eu casgliadau ac unrhyw gamau i’w cymryd. Fel arfer byddant yn gwneud hyn cyn pen 7 diwrnod gwaith, ac os bydd yn cymryd mwy o amser, byddant yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi.

Mynd â’ch cwyn y tu allan i Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Os ydych yn dal yn anfodlon â’n hymateb, gallwch gysylltu â’r Comisiwn Elusennau ar 0845 300 0218 neu ymweld â’u gwefan www.charitycommission.gov.uk am gyngor.

Os yw’ch cwyn yn ymwneud â’r modd yr ydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, mae hawl gennych i roi gwybod am eich pryderon i reoleiddiwr diogelu data y DU, Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Gellir cyfeirio pob cwyn sy’n ymwneud â’n harferion codi arian at y Rheoleiddiwr Codi Arian ar 0300 999 3407 neu ar eu gwefan www.fundraisingregulator.org.uk. Os ydych yn derbyn ymateb oddi wrthym am fater codi arian nad ydych yn hapus ag ef, mae’r Rheoleiddiwr Codi Arian yn ei gwneud yn ofynnol i chi roi gwybod iddo am hyn cyn pen 8 wythnos o glywed oddi wrthym.