Creu Mwy o Ddolydd

Ein hymgyrch codi arian gyntaf

Yn y DU rydyn ni wedi colli mwy na 95% o’n dolydd o flodau gwyllt yn ystod y 75 mlynedd diwethaf. Mae hynny’n golygu bod llai o leoedd arbennig i flodau, gwenyn a bywyd gwyllt arall dyfu, byw a ffynnu. Yn Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro rydyn ni eisiau helpu i newid hyn, cyn ei bod yn rhy hwyr!

Mae’r ymgyrch Creu Mwy o Ddolydd wedi bod yn rhedeg ers Ebrill 2019.  Mae’r arian sydd wedi’i godi hyd yma yn cefnogi wyth safle newydd dros gyfanswm o 52 hectar. Mae’r dolydd hyn yn cynnig ‘cerrig camu’ ar gyfer bywyd gwyllt, fel britheg y gors, gan alluogi pryfed a phlanhigion i symud ar draws ardal ehangach er mwyn i’w rhywogaethau ffynnu a chael eu cynnal.

Mae dolydd yn gartref i bryfed fel gwenyn, sy’n hanfodol i beillio rhai o’n hoff ffrwythau a llysiau. Heb sôn am ba mor hardd yw ein blodau gwyllt ni a’r cynefin anhygoel maen nhw’n ei greu sy’n fwrlwm o fywyd.

Mae angen eich help arnom i gadw, i ddiogelu ac i greu dolydd newydd yn Sir Benfro. Bydd y fenter hyfryd hon yn creu gwaddol parhaol ac yn fendith i gymunedau, wrth iddyn nhw weld y cynefinoedd newydd hyn i beillwyr yn ffynnu dros y blynyddoedd nesaf.

Drwy roi dim ond £5 heddiw, gallwch chi helpu i warchod dros 400 metr sgwâr o ddolydd yn y Parc Cenedlaethol am flwyddyn.

Gwnewch wahaniaeth heddiw a chefnogi Creu Mwy o Ddolydd.

I gyfrannu at apêl Creu Mwy o Ddolydd:

  • Trwy neges testun – anfonwch MOREMEADOWS i 70085 i gyfrannu £5. Bydd hyn yn rhoi £5 i Apêl Gwneud Mwy o Ddolydd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ynghyd â’ch neges gyfradd safonol.
  • Ar-lein – Gallwch gyfrannu ar ein tudalen apêl trwy glicio ar y ddolen isod: www.justgiving.com/campaign/makemoremeadows.

Helpwch ni i Greu Mwy o Ddolydd

Cliciwch y ddolen isod i gyfrannu ar-lein nawr trwy ymweld â'n tudalen ymgyrchu.

Cyfrannwch Ar-lein Nawr!