Gadael Rhodd yn Eich Ewyllys

Remembering the National Park in your Will

Mae gadael anrheg yn eich Ewyllys yn un o'r gwahaniaethau mwyaf y gallwch ei wneud i amddiffyn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Rydym yn deall bod hwn yn benderfyniad personol mawr ond os yw'r amser byth yn iawn i chi gofio elusen yn eich Ewyllys cofiwch Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gweithio gyda Farewill, ysgrifennwr Ewyllysiau mwyaf y DU i gynnig gwasanaeth ysgrifennu Ewyllysiau ar-lein yn rhad ac am ddim yng Nghymru a Lloegr, fel y gallwch chi ysgrifennu neu ddiweddaru eich Ewyllys yn rhad ac am ddim.

Nid oes raid i chi gynnwys rhodd yn eich Ewyllys i Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro er mwyn defnyddio’r gwasanaeth, ond gobeithiwn y byddwch chi’n ystyried rhoi rhodd unwaith yr ydych chi wedi darparu ar gyfer eich anwyliaid.

Ysgrifennu eich Ewyllys ar-lein

Yn syml, cofrestrwch ar-lein ar wefan Farewill, yna mewngofnodwch y côd pembscoast1 – wrth y ddesg dalu er mwyn cael ysgrifennu eich Ewyllys yn rhad ac am ddim.

Gall pob rhodd, dim ots pa mor fach neu fawr, wneud gwahaniaeth. Gallai cyn lleied ag 1% helpu i ofalu am y lle hardd ac arbennig yma fel ei fod dal yma i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau a’i brofi.

Nodwch os gwelwch yn dda mai dim ond drwy gyfrwng y Saesneg y darperir y gwasanaeth ysgrifennu ewyllysiau.  Rydym yn gweithio gyda’r cwmni i weld a ellir ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae’r gwasanaeth ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd.

Walks on the Pembrokeshire Coast Path at the Gribyn, Solva

Gadael Rhodd yn Eich Ewyllys

What information is needed for a Will?

Beth fydd arnoch ei angen:

Cyfeiriad a rhif elusen gofrestredig

Cyfeiriad:
Ymddiriedolaeth Arfordir Penfro
Parc Llanion
Doc Penfro
Sir Benfro
SA72 6DY

Rhif Elusen Gofrestredig:
1179281

Am fwy o wybodaeth neu os byddwch eisiau siarad gyda ni am adael rhodd yn eich ewyllys i Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ffoniwch Nichola ar 01646 624808 neu anfonwch e-bost i nicholac@pembrokeshirecoast.org.uk.

Drwy gymryd y camau bach yma nawr, fe allwch chi helpu i gael effaith fawr am flynyddoedd i ddod.

Rydym yn aelod o Newyddiadur Cymdeithas y Cyfreithwyr. I gael gwybod mwy ewch i wefan Newyddiadur Cymdeithas y Cyfreithwyr.

Ysgrifennu Eich Ewyllys Ar-Lein Yn Rhad Ac Am Ddim

  1. Cofrestrwch ar-lein ar wefan Farewill
  2. yna mewngofnodwch y côd pembscoast1 – wrth y ddesg dalu er mwyn cael ysgrifennu eich Ewyllys yn rhad ac am ddim.
  3. Gobeithiwn y byddwch chi’n ystyried rhoi rhodd i Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro unwaith yr ydych chi wedi darparu ar gyfer eich anwyliaid.
Ewch i wefan Farewill