Partneriaid Arfordir Penfro – Cwmnïau yn rhoi

Ein cynllun Partneriaid Arfordir Penfro yw ein rhaglen flynyddol o aelodaeth busnes. Ein dymuniad yw gweithio gyda chi a'ch busnes i ddatblygu partneriaeth sydd o fudd i chi ac i’r Parc ac sy'n helpu i warchod y Parc Cenedlaethol, heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae gennym 4 pecyn gwahanol ar gael sy’n gweddu i unrhyw faint a math o fusnes, ac mae buddion pob pecyn wedi’u rhestru isod.

Os hoffech chi ddod yn Bartner Arfordir Penfro neu drafod cynllun ymhellach, cysylltwch â’r tîm drwy ffonio 01646 624811 neu e-bostiwch  support@pembrokeshirecoasttrust.wales.

Efydd – £500

  • Defnyddio ein logo cefnogwr Arfordir Penfro
  • Cydnabyddiaeth ar-lein fel Partner Efydd Arfordir Penfro, gan gynnwys enw a dolen i wefan y cwmni
  • Sylw i’ch busnes yn ein e-gylchlythyr i gefnogwyr
  • Rhannu gwybodaeth ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol y Parc Cenedlaethol
  • Eich cynnwys ar restr yn ein Hadroddiad Effaith blynyddol; a rennir gyda’n holl gefnogwyr a chyllidwyr

 

Arian – £1,000

  • Defnyddio ein logo cefnogwr Arfordir Penfro
  • Cydnabyddiaeth ar-lein fel Partner Arian Arfordir Penfro – gan gynnwys logo’r cwmni a dolen i wefan y cwmni
  • Sylw i’ch busnes yn ein e-gylchlythyr i gefnogwyr
  • Rhannu gwybodaeth ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol y Parc Cenedlaethol
  • Eich cynnwys ar restr yn ein Hadroddiad Effaith blynyddol; a rennir gyda’n holl gefnogwyr a chyllidwyr
  • Gwahoddiad i ymuno â ni yn ein digwyddiadau cefnogwyr allweddol a’n diwrnodau gwirfoddoli
Coed Pen yr allt ddu

Aur – £5,000

  • Defnyddio ein logo cefnogwr Arfordir Penfro
  • Cydnabyddiaeth ar-lein fel Partner Aur Arfordir Penfro – gan gynnwys logo’r cwmni, disgrifiad a dolen i wefan y cwmni
  • Sawl cyfeiriad at eich busnes yn ein e-gylchlythyr i gefnogwyr
  • Rhannu gwybodaeth ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol y Parc Cenedlaethol
  • Logo a’ch cynnwys ar restr yn ein Hadroddiad Effaith blynyddol; a rennir gyda’n holl gefnogwyr a chyllidwyr
  • Gwahoddiad i ymuno â ni yn ein digwyddiadau cefnogwyr allweddol a’n diwrnodau gwirfoddoli
  • Cyfle i drefnu diwrnod gwirfoddoli corfforaethol pwrpasol ar gyfer eich busnes
  • Cymorth pwrpasol ar y cyfryngau a’r wasg i gynyddu effaith eich partneriaeth â ni i’r eithaf

Platinwm – pecyn pwrpasol (pris ar gais)

Cysylltwch â’r tîm i gael gair am ddatblygu partneriaeth benodol at eich gofynion chi gyda’r posibiliadau o sicrhau buddion ar raddfa fwy i’r amgylchedd ac i’r cymunedau lleol.

Cysylltwch a ni i ddarganfod mwy

Cwrdd â'n Partneriaid

Darganfyddwch mwy am ein partneriaid presennol a gweld pwy sy'n cefnogi ein gwaith.

Gweld pwy sy'n ein cefnogi