Ein gwaith a’n heffaith

Prosiectau

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fel elusen newydd wedi ymrwymo i gefnogi'r prosiectau gorau a ddarperir gan y bobl orau ac wedi'u llywio gan Gynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, cymunedau lleol ac arbenigwyr amgylcheddol a threftadaeth.

Gyda’ch cefnogaeth chi, rydym wedi helpu i ariannu wyth prosiect a nodwyd fel blaenoriaethau yn y Parc Cenedlaethol.

Y prosiectau rydym yn eu cefnogi

  1. Creu Mwy O Ddolydd
    Cefnogi dolydd presennol a chreu mwy o ddolydd i fywyd gwyllt, gan alluogi pryfed a phlanhigion i symud ar draws ardal ehangach fel y gall eu rhywogaeth ffynnu a chael eu cynnal.
  2. Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro
    Gwella mynediad at gyfleoedd dysgu awyr agored ledled Sir Benfro.
  3. Gwreiddau Roots
    Archwilio cynnyrch naturiol mewn cymunedau gwledig a sut mae’r tir o’i gwmpas yn helpu i gynhyrchu’r bwyd ar ein byrddau.
  4. Pobl, Llwybrau a Pheillwyr
    Helpu i hybu bioamrywiaeth ar Lwybr yr Arfordir trwy addasu sut rydym yn ei gynnal.
  5. Maes Tanio Castellmartin
    Camera bywyd gwyllt
  6. Gwyllt am Goetiroedd
    Bydd apêl Gwyllt am Goetiroedd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn helpu i greu coridorau coetiroedd newydd er mwyn helpu bywyd gwyllt i dyfu ac i ffynnu.
  7. Archaeoleg
    Gwisg i wirfoddolwyr
  8. Pwyth Mewn Pryd
    Cefnogi cadwraeth trwy frwydro yn erbyn rhywogaethau estron goresgynnol.

Adroddiad Effaith Blynyddol 2021/22

Lawrlwythwch ein Hadroddiad Effaith Blynyddol 2021-22 i ddarganfod mwy am y prosiectau a gyflwynwyd a sut y gwariwyd eich rhoddion i wneud gwahaniaeth yn y Parc Cenedlaethol.

Gallwch hefyd lawrlwytho ein Hadroddiad Effaith Blynyddol 2020-21 a Hadroddiad Effaith Blynyddol 2019-20.

Lawrlwythwch yr Adroddiad Effaith Blynyddol 2021/22

Darganfyddwch fwy

Os hoffech chi gefnogi neu ddarganfod mwy ynglŷn â phrosiect penodol, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda ar 01646 624808 neu anfonwch e-bost at cefnogi@ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru.

Cysylltwch â ni