Grant Gweithredu Dros Natur

Cefnogi pobl leol i helpu i wella natur yn eu cymunedau

Cynllun grant bach sy’n cefnogi grwpiau yn Sir Benfro i gymryd camau cadarnhaol o weithredu ar gadwraeth a’r amgylchedd yn eu cymunedau lleol.

Mwy am y cynllun

Gall grwpiau a sefydliadau cymunedol a busnesau wneud cais am hyd at £4,000 am grant bach ‘Gweithredu dros Natur’ ar gyfer prosiectau sydd â chamau cadarnhaol o weithredu ar gadwraeth ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r cyffiniau.

Rhaid i brosiectau a ariennir gyflawni un o’r canlynol:

  • Camau cadarnhaol o weithredu ar gadwraeth neu newid yn yr hinsawdd.
  • Cefnogi bioamrywiaeth.
  • Creu man gwyrdd newydd.

Ymhlith yr enghreifftiau o’r math o brosiect y gallai’r gronfa ei gefnogi mae: creu dolydd blodau gwyllt ar ddarnau bach o dir comin/tir cyhoeddus, cynyddu’r cynefinoedd i bryfed peillio, plannu coed, creu perthi, plannu coed ffrwythau a chreu pyllau dŵr.

Pwy all wneud cais

Sefydliadau nid-er-elw yn Sir Benfro sydd â chyfrif banc yn enw’r grŵp, gan gynnwys elusennau, sefydliad a busnesau megis darparwyr twristiaeth sydd â thir lle gall pobl dreulio amser yn cysylltu â byd natur neu fusnesau lle gellir dangos budd i’r cyhoedd gwirfoddol a gyfansoddwyd, cynghorau cymuned, ysgolion a chlybiau a chymdeithasau chwaraeon.

*Rhaid i fusnesau dangos budd cyhoeddus, er enghraifft darparwyr twristiaeth sydd â thir lle gall pobl dreulio amser yn cysylltu â byd natur.

Nid yw unigolion yn gymwys i wneud cais.

Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau sy’n dod o’r ardaloedd cynghorau cymuned a chynghorau tref canlynol:- Boncath, Cilgerran, Clydau, Cwm Gwaun, Trewyddel, Penfro, Ystagbwll a Chastellmartin, Hundleton, Angle, Trefdraeth, Abergwaun ac Wdig, Crymych, Eglwyswrw, Nanhyfer.

Sut mae gwneud cais

  1. Llenwch y ffurflen gais fer. Mae’r ffurflen ar gael, a gellir ei llenwi yn Gymraeg neu yn Seasneg.
  2. Anfonwch eich cais wedi’i lenwi atom drwy e-bost. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Medi 2024. Mae un dyddiad cau bob blwyddyn.
  3. Rhowch enw eich sefydliad ym maes pwnc eich e-bost a’i anfon at support@pembrokeshirecoasttrust.wales

Bydd y canllawiau canlynol o bosibl yn gymorth i chi lenwi’r cais. Gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi pob blwch. Nodir uchafswm y nifer geiriau a ganiateir. Nid oes angen i chi ddefnyddio’r uchafswm.

Manylion cysylltu

  • Rhowch enw eich sefydliad fel y’i nodwyd yn eich dogfen lywodraethu a’ch cyfriflen banc.
  • Dywedwch wrthym beth mae eich grŵp yn ei wneud.
  • Ticiwch y math o grŵp/sefydliad nid-er-elw ydych chi.

Manylion y prosiect

  • Beth yw enw’r prosiect ac ymhle fydd yn cael ei gynnal? Noder lleoliad y prosiect ac ardal y cyngorcymuned neu gyngor tref.
  • Pryd ydych chi’n bwriadu cychwyn ar y prosiect? Ni all fod wedi cychwyn eisoes; ni allwn dalu am eitemau yn ôl-weithredol.
  • Pryd fyddwch chi’n gorffen y prosiect? Sylwer os gwelwch yn dda bod rhaid cwblhau’r prosiect erbyn 28 Chwefror 2025.
  • Beth fyddwch yn ei wneud â’r arian grant? A fyddech gystal ag egluro’r manteision i fywyd gwyllt a’r manteision i bobl
  • A ydych wedi gwneud unrhyw ymchwil am yr angen? Pwy sydd eisiau’r prosiect a sut ydych chi’n gwybod hyn
  • Ai ardal gymunedol, pentref neu grŵp o bobl fydd yn elwa? Er enghraifft, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr?
  • Pa wahaniaeth fyddwch chi’n ei wneud? Sut fydd pobl neu’r amgylchedd yn elwa? Pa wahaniaeth fyddwch chi’n ei weld?
  • Sut fyddwch chi’n gwybod eich bod chi wedi gwneud gwaith da? Sut fyddwch chi’n gwybod faint o bobl fydd yn elwa? Beth fyddwch chi’n ei wneud ar ddiwedd y prosiect i weld a oedd wedi gweithio?
  • Sylwer mai cronfa gyfalaf yn unig yw hon (ni ellir defnyddio’r cyllid ar gyfer costau staff na chostau rhedeg).

Cyllideb

  • Faint o arian ydych chi’n gofyn amdano? (Uchafswm o £4,000)
  • Rhowch ddadansoddiad llawn o sut y byddwch yn gwario’r arian. Rhowch fanylion clir y costau a’r union ffigurau.
  • Os na fydd yr arian grant yn ddigon i dalu’r costau yn llawn i gyflawni’r prosiect, o ble fydd gweddill y cyllid yn dod?
  • Dim ond ar eitemau cyfalaf y gellir gwario’r arian

Datganiad

  • Ticiwch y blychau a llofnodi’r ffurflen i gadarnhau bod y manylion ar y ffurflen gais yn gywir. Dim ond person awdurdodedig, megis aelod o’r bwrdd neu bwyllgor, all lofnodi.

Pwyllgor Gwneud Penderfyniadau

  • Mae un dyddiad cau y flwyddyn. Bydd pob cais yn cael ei asesu a’i sgorio, a bydd penderfyniad yn cael ei wneud cyn pen 4 wythnos o’r dyddiad cau.

Cyflawni

  • Sylwer os gwelwch yn dda bod rhaid cwblhau’r prosiect erbyn 28 Chwefror 2025
  • Nid oes angen cyllid cyfatebol.
  • Bydd yn ofynnol i bob prosiect a ariennir gwblhau diweddariad hanner ffordd drwy’r prosiect ac adroddiad ar ddiwedd y prosiect gyda thystiolaeth.

Prosiectau lleol yn elwa o’r grantiau Gweithredu dros Natur

Y RHAI SYDD WEDI DERBYN GRANT GWEITHREDU DROS NATUR

2023

Roedd naw prosiect lleol ar draws Sir Benfro wedi elwa o gyllid Gweithredu dros Natur yn 2023.

Roedd y prosiectau wedi derbyn hyd at £4,000 i gyflawni prosiectau oedd yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r ardaloedd cyfagos.

28. Dymuniad Canolfan Gweithgareddau Simpson Cross oedd cael lle i gymuned Simpson Cross a’r gymdogaeth leol gysylltu a chymdeithasu gyda’r diben o wella eu lles.

27. Roedd ESTEAM CYF wedi creu pwll ac ardal o’i amgylch a ddyluniwyd ar gyfer mynediad i gadeiriau olwyn a meinciau. Bydd yn adnodd gwerthfawr i gyfranogwyr Esteam, y trigolion lleol, ac ymwelwyr â llwybr arfordir Sir Benfro, gan feithrin arsylwi ac addysg am gynefinoedd, yn ogystal â’r ffawna a’r fflora sydd i’w gweld yn yr ardal dros gyfnod o amser.

26. Nod Canolfan Llesiant Dinas yw sefydlu perllan gymunedol sy’n cynnwys coed afalau treftadaeth Gymreig, ochr yn ochr â gwrychoedd brodorol a thanblannu cennin pedr Cymreig, tra hefyd yn mynd i’r afael â rhedyn ymledol a chyflwyno ardal o flodau gwyllt blynyddol.

25. Gardd Drwy’r Oesoedd y Tabernacl – adeiladu pwll ac ardal ail-wylltio gyda’r nod o wella bioamrywiaeth, cefnogi poblogaethau ystlumod, draenogod ac amffibiaid, gan gynnig cyfleoedd dysgu gwerthfawr i ysgolion ac aelodau’r cyhoedd.

24. Mae Ysgol Harri Tudur am ail-wylltio ardaloedd segur o dir yr ysgol drwy blannu llystyfiant a gosod byrddau gwybodaeth i fyfyrwyr ac ymwelwyr.

23. Roedd Ysgol Gynradd Gymunedol Stepaside wedi creu rhandir ysgol, gan annog pob aelod o gymuned yr ysgol i ddod i gydweithio. Nod y prosiect yw i ddisgyblion ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i dyfu eu bwyd eu hunain mewn modd sy’n gweithio mewn harmoni â’r amgylchedd ac sy’n cynnal y bioamrywiaeth cyfoethog a geir yn Sir Benfro.

22. Roedd Cyngor Tref Dinbych-y-pysgod am ddiweddaru gwely blodau yng Ngerddi Crofft oedd yn gartref i blanhigion traddodiadol i’w plannu allan. Maent am addasu hyn yn ardd beillio gyfeillgar i wenyn fydd yn hunangynhaliol.

21. Roedd Cyngor Cymuned Llanhuadain wedi creu gardd synhwyraidd gymunedol newydd i gefnogi lles a bioamrywiaeth. Lle i ymlacio a mwynhau harddwch a llonyddwch natur mewn amgylchedd hyfryd, gan fwynhau golygfeydd dros Fynyddoedd y Preseli.

20. Roedd Coleg Sir Benfro wedi gwella bioamrywiaeth drwy amrywiol fesurau, gan gynnwys hau hadau blodau gwyllt brodorol, gosod gwestai chwilod, blychau pili-pala, blychau adar, a chartrefi draenogod ar draws y safle, gyda dysgwyr yn cymryd rhan yn y gwaith paratoi a hau hadau fel rhan o’u cyrsiau sgiliau byw yn annibynnol neu astudiaethau tir.

________________________________________________________________________________________________________________________

2022

Roedd naw prosiect lleol ag effaith amgylcheddol gadarnhaol wedi elwa o gyllid Gweithredu dros Natur yn 2022.

Yn 2022, dyfarnwyd hyd at £1,000 i’n grwpiau cymunedol Gweithredu dros Natur i gyflawni prosiectau sydd o fudd i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

19. Mae Ysgol Greenhill, Dinbych-y-pysgod yn creu gwelyau uchel ar gyfer cynnyrch bwyd tymhorol, plannu blodau gwyllt mewn ardal o weirglodd, a chaniatáu i’r ardal ail-wylltio. Hefyd maent yn creu gardd o goed ffrwythau ar gyfer disgyblion yr ysgol a’r gymuned.

18. Mae Clwb Pêl-droed a Chwaraeon Abergwaun yn gwella bioamrywiaeth drwy blannu amrywiaeth o goed a llwyni brodorol ar ffin eu cae chwarae.

17. Mae Ysgol Gymunedol Doc Penfro yn creu gardd sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt a’r nod yw annog dysgwyr i feithrin cariad at natur ac ymdeimlad o gyfrifoldeb am ddyfodol cynaliadwy. Maent hefyd yn datblygu ardal ar gyfer pryfed peillio o fewn eu Gwarchodfa Wenyn lle byddant yn plannu clawdd ffrwythau fel ffin naturiol, a gwelyau gardd uchel o berlysiau.

16. Mae Ysgol Harri Tudur, Penfro yn creu gardd lesiant drwy blannu amrywiaeth o blanhigion a llwyni – lle perffaith i eistedd, myfyrio a mwynhau.

15. Mae Cymdeithas Gymunedol De Ridgeway, Maenorbŷr yn plannu gwrychoedd o rywogaethau brodorol ar eu safle newydd, yn ogystal â chreu ardaloedd helaeth i hau blodau gwyllt. Maent hefyd yn creu gardd bentref, rhandir, a pherllan.

14. Mae Cyngor Tref Dinbych-y-pysgod yn creu gardd i bryfed peillio yn lle’r planhigion a glaswellt ar Riw’r Castell ac yn darparu tybiau hunan-ddyfrio i leihau’r gwaith o gynnal a chadw.

13. Mae Grŵp Sgowtiaid 1af Johnston yn gwella bioamrywiaeth eu tiroedd yn ogystal â chreu lle i fyfyrio drwy blannu ar gyfer pryfed peillio yn Neuadd y Sgowtiaid a’r Gymuned yn Hill Mountain.

12. Mae Cymdeithas Amaethyddol Sir Benfro yn plannu coed ar faes sioe Llwynhelyg gyda chymorth gwirfoddolwyr a myfyrwyr ysgol Caer Elen.

11. Mae Cyngor Cymuned Dwyrain Williamston yn gwella’r cynefin lleol, gan ganiatáu i amrywiaeth o flodau gwyllt ffynnu drwy dorri’n ôl y mieri, coed y ddraenen ddu a gweiriau yn rheolaidd.

____________________________________________________________________________________________________________________

2021

Roedd deg prosiect lleol ag effaith amgylcheddol gadarnhaol wedi elwa o rownd gyntaf cyllid Gweithredu dros Natur yn 2021.

Yn 2021, dyfarnwyd hyd at £500 i’n grwpiau cymunedol Gweithredu dros Natur i gyflawni prosiectau sydd o fudd i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

10. Mae clwb garddio Llanteg yn creu dolydd o flodau gwyllt ac yn plannu coed. Mae hyn o fudd i bryfed peillio a chamau cadwraeth mewn 3 safle cymunedol sy’n hygyrch i’r cyhoedd.

9. Enfys Tirion yw grŵp cymunedol yn Llangwm sy’n gwella eu lle chwarae drwy blannu planhigion synhwyraidd a phlannu coed, gan gynnwys plannu blodau gwyllt a chreu gwesty chwilod, fydd yn ardal sy’n hygyrch i’r cyhoedd.

9. Mae Ysgol Maenclochog yn creu ardaloedd bach o weirglodd blodau gwyllt ar safle’r ysgol ac ar y cyfleuster chwaraeon cyhoeddus yn y pentref. Gan gynnwys blychau adar, offer casglu sbwriel ac offer addysgol.

7. Mae disgyblion ysgol uwchradd Aberdaugleddau sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn creu gardd glöynnod byw, yn datblygu ardal o weirglodd blodau gwyllt, hefyd blychau adar a gwesty chwilod.

6. Mae Cyngor Cymuned Llanrhath yn creu weirglodd blodau gwyllt a gwesty chwilod ym mhentref Summerhill er budd y gymuned a hefyd at ddefnydd yr ysgolion lleol.

5. Mae’r grŵp Support The Boardwalkyn defnyddio eu grant Gweithredu dros Natur i glirio tyfiant cyrs o amgylch ymylon y Pwll Slash ac ardal y llwybr pren, ac yn torri’n ôl y tyfiant helyg o flaen y llwyfan gwylio. Mae’r Pwll Slash yn bwll cymunedol hygyrch ym mhentref Aberllydan sy’n ategu bioamrywiaeth ac yn gyfleuster hamdden.

4. Bydd Ysgol Harri Tudur (Ysgol Uwchradd Penfro) yn cynorthwyo disgyblion sydd angen iechyd a lles emosiynol ychwanegol i ddatblygu ardal ar dir yr ysgol. Creu gardd synhwyraidd, sydd o fudd i bryfed peillio, gan gynnwys plannu blodau gwyllt.

3. Bydd Ysgol Penrhyn Dewi (ysgol gynradd ac uwchradd Tyddewi) yn prynu offer casglu sbwriel i’w ddefnyddio ar dir yr ysgol yn ogystal ag yn y gymuned, ar deithiau i’r traeth ac i leoliadau eraill. Hefyd, bydd blychau adar a chartrefi peillwyr (tŵr buchod coch cwta ac Ysgubor Wenyn) yn cael eu gosod ar safle’r ysgol.

2. Mae Ysgol Wdig yn gweithio gyda disgyblion blwyddyn 6 i ddysgu am bryfed peillio, gan gynnwys plannu a monitro pryfed peillio o gwmpas tir yr ysgol.

1. Bydd Ysgol Wirfoddol Sant Marc (Hwlffordd) yn lluosogi hadau blodau gwyllt i’w defnyddio yn y gymuned yn ogystal â thyfu ffrwythau i’w rhannu â’r gymuned.

Mae’r map yn dangos ble mae’r cyllid wedi’i wario