Gwyllt Am Goetiroedd

Ein Hapêl Goed o £10,000

Helpwch ni i godi £10,000 i blannu a gofalu am goed mawr eu hangen ar draws Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.

Pam coetiroedd?

O goedwigoedd i wrychoedd cyfansawdd, dyffrynnoedd arfordirol i berllannau a chaeau, mae ein coed dan fygythiad ac mae angen mwy ohonynt arnom yn ein tirwedd.

Mewn partneriaeth â’r darlunydd lleol Millie Marotta wrth i’w llyfr lliwio newydd Woodland Wild lansio, rydym am greu coridorau coetir newydd ar draws y Parc Cenedlaethol er mwyn i fywyd gwyllt dyfu a ffynnu.

O Gollen i Dderwen, Helygen i Griafolen mae’r coed hyn yn darparu cartrefi, bwyd, amddiffyniad a chysylltiadau ar gyfer y bywyd gwyllt o’n cwmpas. Mae coed hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth wneud iawn am ein carbon a’r effaith niweidiol yr ydym ni fel bodau dynol wedi’i gael ar ein tirwedd werthfawr.

Sut y bydd fy rhodd yn gwneud gwahaniaeth?

  • Gallai rhodd o £5 helpu i dalu am blannu coeden newydd a helpu i ofalu amdani.
  • Gallai rhodd o £16 helpu i dalu am fetr o wrych newydd gyda ffensys amddiffynnol i greu cartrefi newydd ar gyfer bywyd gwyllt.
  • Gallai rhodd o £100 helpu i dalu am 100m2 o goetir newydd.

Trwy gefnogi ein hapêl Gwyllt Am Goetiroedd heddiw, byddwch yn helpu i blannu a gwarchod 1,000 o goed ychwanegol ar draws Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.

Ein Parc Cenedlaethol ni yw hwn…gadewch inni ei amddiffyn gyda’n gilydd!

Sut i gyfrannu at Gwyllt am Goetiroedd

  • Ar-lein – Gallwch gyfrannu nawr trwy ein tudalen rhodd Gwyllt am Goetiroedd
  • Trwy destun – Tecstiwch WOODLANDWILD i 70085 i gyfrannu £5. Bydd hyn yn rhoi £5 i apêl Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro – Gwyllt am Goetiroedd, ynghyd â’ch neges gyfradd safonol.
  • Tudalen Ymgyrch – ymwelwch â’n tudalen Just Giving Ymgyrch Gwyllt am Goetiroedd
  • Trwy’r post – Gwnewch siec yn daladwy i Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a’i hanfon i’r cyfeiriad canlynol:

Apêl Gwyllt am Goetiroedd
Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro
Parc Llanion
Doc Penfro
Sir Benfro
SA72 6DY

Bydd pawb sy’n cyfrannu i’n hapêl Gwyllt am Goetiroedd yn derbyn taflen liwio unigryw arbennig a grëwyd gan Millie yn unswydd ar gyfer yr apêl. Bydd hon ar gael i’w lawrlwytho neu gellir gofyn amdani trwy’r post.

Am Millie Marotta

Mae Millie Marotta yn ddarlunydd hunangyflogedig ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Yn arloeswr yn y mudiad lliwio byd-eang, roedd Millie wedi bod yn ddarlunydd ymhell cyn iddi roi inc ar ei llyfr cyntaf. Mae lluniau cywrain Millie wedi’u hysbrydoli gan gariad at fywyd gwyllt a diddordeb yn y byd naturiol.

Millie Marotta - Illustrator

Y darlynudd Millie Marotta

Yn 2015, treuliodd cyfrol gyntaf Millie, Animal Kingdom, record o 22 wythnos fel y ffuglen clawr meddal Rhif 1 swyddogol.

Ers hynny, mae hi wedi gwerthu 9 miliwn o lyfrau ledled y byd ac mae ei llyfrau wedi’u cyfieithu i dros 30 o ieithoedd.

Ymhlith ei llyfrau mae Tropical Wonderland, Wild Savannah, Curious Creatures a Beautiful Birds and Treetop Treasures.

Gallwch ddarganfod mwy am waith Millie trwy ymweld â www.milliemarotta.co.uk a’i dilyn ar Facebook ac Instagram.

Diolch enfawr i Millie Marotta a’r cyhoeddwr Batsford sydd wedi rhoi £1,000 yn garedig i apêl Gwyllt am Goetiroedd, gan ein helpu i blannu 100 o goed newydd ar draws Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.

Ein Coeden £10,000

Bydd pob £100 a roddir i apêl £10,000 Gwyllt am Goetiroedd yn gweld deilen yn cael ei hychwanegu at ein coeden cyfanswm codi arian.

Byddwn hefyd yn postio diweddariadau rheolaidd am yr ymgyrch trwy ein cyfrifon Facebook, Twitter ac Instagram.

Gallwch gyfrannu ar-lein nawr neu edrych ar gynnydd yr ymgyrch trwy dudalen Just Giving Gwyllt am Goetiroedd.

Cyfrannwch Ar-lein Nawr

Mwy o ffyrdd y gallwch chi helpu