Darlunydd llwyddiannus yn rhoi hwb i apêl coetiroedd Ymddiriedolaeth y Parc Cenedlaethol

Cyhoeddwyd : 25/09/2020

Mae Millie Marotta, sy’n ddarlunydd llwyddiannus ac yn un o drigolion Dinbych-y-pysgod, wedi dychwelyd i’w gwreiddiau i gefnogi ymgyrch codi arian diweddaraf Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sydd â’r nod o helpu i blannu a diogelu 1,000 o goed.

Mae apêl Wyllt am Goetiroedd yr elusen yn gobeithio codi £10,000 i greu coridorau coetir newydd ar draws Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro er mwyn galluogi bywyd gwyllt i dyfu a ffynnu.

Mae’r ymgyrch yn cyd-daro â rhyddhau llyfr lliwio diweddaraf Millie, Millie Marotta’s Woodland Wild (Batsford), sef dathliad o’r bywyd gwyllt unigryw sydd i’w weld yng nghoetiroedd y byd. Bydd pawb sy’n cyfrannu i’r apêl yn cael llun i’w liwio wedi’i greu’n arbennig ar gyfer yr apêl ac yn cynnwys anifail sydd i’w weld yng nghoetiroedd Sir Benfro.

Gallai rhodd o £5 yn unig helpu i dalu am blannu a gofalu am goeden newydd, a gallai cyfraniad o £100 helpu i greu 100m2 o goetir newydd.

Dywedodd Elsa Davies LVO, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:

“Mae ein coed cyll, derw, helyg, onnen ac eraill, yn rhoi cartrefi, bwyd, gwarchodaeth a chysylltiadau i’r bywyd gwyllt o’n cwmpas.

“Mae coed hefyd yn chwarae rhan hollbwysig yn gwrthbwyso ein hôl troed carbon a’r effaith niweidiol rydyn ni fel pobl wedi’i chael ar ein tirwedd werthfawr, a fyddai hefyd yn gallu cael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd a’n llesiant.

“Hoffai’r Ymddiriedolaeth ddiolch yn fawr iawn i Millie Marotta a’r cyhoeddwr Batsford sydd wedi rhoi cyfraniad hael o £1,000 i apêl Wyllt am Goetiroedd, a fydd yn ein helpu i blannu 100 o goed newydd ar draws Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.”

Dywedodd Millie Marotta:

“Rwyf wrth fy modd fy modd yn cefnogi apêl Gwyllt am Goetiroedd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Wrth i’n coetiroedd yma yn Sir Benfro, ar draws y DU a gweddill y byd wynebu bygythiadau amgylcheddol cynyddol, mae’n bwysig ein bod yn ceisio gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu’r cynefinoedd cyfoethog hyn a diogelu dyfodol i’n bywyd gwyllt.

“Pa ffordd well o gymryd rhan na helpu i alluogi bywyd gwyllt i dyfu a ffynnu yma gartref yn Sir Benfro.”

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen sydd wedi’i chofrestru gan Gomisiwn Elusennau’r DU. Rhif cofrestru’r elusen yw 1179281.

I gyfrannu ar-lein a chael rhagor o wybodaeth am bartneriaeth yr Ymddiriedolaeth â Millie Marotta, ewch i: https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/sut-gallwch-chi-helpu/gwyllt-am-goetiroedd/

Gwyllt Am Goetiroedd

We did it - with your support we have raised over £19,000 to plant and care for much needed trees across the Pembrokeshire Coast National Park. This will help to create new woodland corridors across the National Park for wildlife to grow and thrive.

Darllen mwy