Gweithredwch dros Natur gydag Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Posted On : 19/04/2021

Mae cynllun grantiau bach newydd ar gyfer prosiectau lleol sy’n cael effaith amgylcheddol gadarnhaol wedi cael ei lansio gan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

 

Gwahoddir sefydliadau nid-er-elw sydd wedi eu lleoli ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r ardal gyfagos, gan gynnwys elusennau, grwpiau gwirfoddol â chyfansoddiad, cynghorau cymuned, ysgolion a chlybiau neu gymdeithasau chwaraeon i wneud cais am grantiau Gweithredu dros Natur o hyd at £500.

 

Rhaid i brosiectau a gyllidir naill ai gefnogi bioamrywiaeth, cyflawni o ran cadwraeth neu newid yn yr hinsawdd, neu ddarparu addysg ar unrhyw un o’r uchod.

 

Dywedodd Jessica Morgan, Swyddog Cyllid a Grantiau yn yr Ymddiriedolaeth: “Mae enghreifftiau o brosiectau y gallai’r gronfa eu cynorthwyo yn cynnwys creu dolydd blodau gwyllt ar ddarnau bach o dir comin neu dir cyhoeddus; prynu offer ysgol, fel chwyddwydrau, neu offer tŷ adar; glasbrennau ar gyfer perllan gymunedol; a chyfarpar casglu sbwriel neu lanhau traethau – yn ogystal â chamau gweithredu yn unol â’n hymgyrchoedd cyfredol.”

 

Mae ffurflen gais a chanllawiau cymhwysedd pellach ar gael ar wefan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn www.ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru.

 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi eu cwblhau yw hanner nos, nos Wener 16 Mai 2021.