Gŵyl Sir Benfro yn falch o enwi Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn bartner elusennol

Posted On : 30/04/2021

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn falch iawn o gael ei dewis yn bartner elusennol ar gyfer Gŵyl Big Retreat Sir Benfro yn 2022.

 

Mae’r Ŵyl, sy’n cael ei chynnal yng nghanol y Parc Cenedlaethol, yn gyfle i chi ailgysylltu â chi’ch hun a phobl eraill, gyda cherddoriaeth fyw, comedi a dros 200 o ddosbarthiadau a gweithdai ar amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys ffitrwydd, ioga, nofio gwyllt, byw yn y gwyllt, arddangosfeydd coginio, gweithdai gin a chelf a chrefft.

 

Dywedodd Amber Lort-Phillips, sef Prif Swyddog Gweithredol a Chyd-sylfaenydd yr Ŵyl: “Rydyn ni’n frwd dos natur a’r amgylchedd ac rydyn ni’n falch iawn o gefnogi Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sydd, fel ni a nifer o fusnesau eraill sy’n gweithredu yn y Parc Cenedlaethol, wedi ymrwymo i hyrwyddo cadwraeth, y gymuned leol, diwylliant a’r arfordir.

 

“Bydd hyd yn oed prynu tocyn yn gwneud i chi deimlo’n dda, gan y bydd yr ŵyl yn rhoi £1 o bob tocyn a fydd yn cael ei brynu i’r Ymddiriedolaeth, a bydd yr arian hwn yn cael ei wario ar wella a chynnal gwaith cadwraeth hanfodol. Bydd hyn yn cynnwys plannu a gofalu am goetiroedd a chreu dolydd sy’n denu gwenyn a gloÿnnod byw ar draws Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.”

 

Mae tocynnau nawr ar gael o www.thebigretreatfestival.com ar gyfer Gŵyl 2022, a fydd yn cael ei chynnal rhwng dydd Iau 3 Mehefin a dydd Sul 6 Mehefin 2022.