Parciau Cenedlaethol ledled y byd

Posted On : 17/12/2021

Mae gan bron i 100 o wledydd ledled y byd diroedd sydd wedi’u dynodi yn Barc Cenedlaethol.

Parc Cenedlaethol yw parc naturiol sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion cadwraeth ac sydd wedi’i greu a’i warchod gan lywodraethau cenedlaethol. Gan amlaf, mae’n warchodfa o dir naturiol, lled-naturiol neu ddatblygedig. Er bod cenhedloedd unigol yn dynodi eu Parciau Cenedlaethol eu hunain yn wahanol, mae un syniad sy’n gyffredin iddynt: cadwraeth ‘natur wyllt’ ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac fel symbol o falchder cenedlaethol.

Yng Nghymru mae gennym dri Parc Cenedlaethol – Bannau Brycheiniog, Eryri, a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, wrth gwrs.

Yn ddiweddar cysylltodd cydweithiwr o Gronfa Mynyddoedd Santa Monica â ni. Yn yr un modd ag Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, nhw yw’r gronfa swyddogol nid-er-elw sy’n cefnogi eu Parc Cenedlaethol, ac yn arbennig yn ariannu gwaith ymchwil ar fywyd gwyllt, ar addysg, ar lwybrau ac ar eco-adfer.

Ardal Hamdden Genedlaethol Mynyddoedd Santa Monica yng Nghaliffornia yw’r Parc Cenedlaethol trefol mwyaf yn yr Unol Daleithiau ac mae’n debyg i Sir Benfro gan ei fod yn Barc Cenedlaethol arfordirol.

Mae’n cynnwys yr holl arfordir hyfryd o Los Angeles drwy Malibu i Sir Ventura. Mae’r mynyddoedd yn rhedeg ochr yn ochr â’r cefnfor, a’r uchaf o’r mynyddoedd hyn yn uwch na 3,000 o droedfeddi. Gyda 500 milltir a mwy o lwybrau ar gyfer cerdded a beicio a’r Llwybr Asgwrn Cefn yn ymestyn dros 67 milltir ar draws y mynyddoedd, mae’r lle hwn yn cynnig hafan ar gyfer hamdden a llonyddwch o’r ddinas.

Pan ganiateir i ni deithio unwaith yn rhagor ac os fyddwch yn ymweld ag arfordir hyfryd gorllewin y Môr Tawel yn yr Unol Daleithiau, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael golwg ar y perl arfordirol a mynyddig hwn ynghudd mewn safle o wastatir o Los Angeles!  https://samofund.org/.

Santa Monica Mountains National recreation Area