Partneriaeth elusennol newydd yn camu ymlaen
Mae’n bleser gan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyhoeddi partneriaeth elusennol newydd gyda Corgi Socks, busnes teuluol yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi bod yn arbenigo mewn sanau a dillad gwau moethus wedi’u gwneud â llaw ers 1892.
Fel rhan o’r bartneriaeth hon, bydd Corgi yn rhoi 20% o holl elw’r casgliad o sanau dynion a merched sydd wedi’u hysbrydoli gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro i’r Ymddiriedolaeth. Bydd yr arian yn galluogi’r Ymddiriedolaeth i gefnogi’r gwaith hanfodol o wella mynediad i’r awyr agored, rhoi hwb i amrywiaeth a chadwraeth, hyrwyddo dysgu yn yr awyr agored a chefnogi swyddi a sgiliau.
Dywedodd Chris Jones, Prif Swyddog Gweithredol Corgi: “Mae’r dirwedd eiconig hardd hon ar garreg drws ein cwmni yn ein hatgoffa bob dydd o bwysigrwydd materion amgylcheddol a chynaliadwyedd. Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi elusen sy’n helpu i gadw Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn arbennig nawr, ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi ymrwymo i ddiogelu popeth sy’n arbennig ac yn unigryw am dirwedd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i genedlaethau’r dyfodol ei mwynhau. Ers sefydlu’r Ymddiriedolaeth yn 2019, mae wedi codi dros £100,000 ar gyfer prosiectau yn y Parc Cenedlaethol sy’n cefnogi cadwraeth, cymuned, diwylliant ac Arfordir Penfro.
Mae sanau Corgi sydd wedi’u hysbrydoli gan Arfordir Penfro ar gael yn www.corgisocks.com/collections/protecting-pembrokeshire-coast-national-park, ac mae gostyngiad o 10% ar gael dim ond i chi gofrestru i fod ar restr bostio Corgi.