Ymddiriedolaeth y Parc Cenedlaethol yn dathlu digwyddiad cyntaf 2021

Yn ddiweddar cynhaliodd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ei digwyddiad cyntaf o’r flwyddyn yn yr Oriel yng Trefdraeth, Sir Benfro.

 

Roedd y digwyddiad yn gyfle i lif cyson o ymwelwyr ddysgu mwy am waith yr Ymddiriedolaeth, ac roedd yn cyd-daro ag arddangosfa yn yr oriel gan yr artist tirluniau enwog o Sir Benfro, Gillian McDonald.

 

Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth i gefnogi a hybu cadwraeth, cymunedau a diwylliant ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Ers lansio’r elusen yn haf 2019, mae dros 13 o brosiectau wedi cael eu cefnogi. Mae’r rhain yn cynnwys prosiectau addysg, creu mwy o ddolydd, gwaith i fynd i’r afael â rhywogaethau estron goresgynnol a chynllun i gefnogi pryfed peillio ar hyd Llwybr yr Arfordir.