Cliciwch y ddolen isod i gyfrannu ar-lein nawr trwy ymweld â'n tudalen ymgyrchu.
Creu Mwy o Ddolydd
Ein hymgyrch codi arian gyntaf
Mae’r ymgyrch Creu Mwy o Ddolydd wedi bod yn rhedeg ers Ebrill 2019. Mae’r arian sydd wedi’i godi hyd yma yn cefnogi wyth safle newydd dros gyfanswm o 52 hectar. Mae’r dolydd hyn yn cynnig ‘cerrig camu’ ar gyfer bywyd gwyllt, fel britheg y gors, gan alluogi pryfed a phlanhigion i symud ar draws ardal ehangach er mwyn i’w rhywogaethau ffynnu a chael eu cynnal.
Mae dolydd yn gartref i bryfed fel gwenyn, sy’n hanfodol i beillio rhai o’n hoff ffrwythau a llysiau. Heb sôn am ba mor hardd yw ein blodau gwyllt ni a’r cynefin anhygoel maen nhw’n ei greu sy’n fwrlwm o fywyd.
Mae angen eich help arnom i gadw, i ddiogelu ac i greu dolydd newydd yn Sir Benfro. Bydd y fenter hyfryd hon yn creu gwaddol parhaol ac yn fendith i gymunedau, wrth iddyn nhw weld y cynefinoedd newydd hyn i beillwyr yn ffynnu dros y blynyddoedd nesaf.
Drwy roi dim ond £5 heddiw, gallwch chi helpu i warchod dros 400 metr sgwâr o ddolydd yn y Parc Cenedlaethol am flwyddyn.
Gwnewch wahaniaeth heddiw a chefnogi Creu Mwy o Ddolydd.
I gyfrannu at apêl Creu Mwy o Ddolydd:
- Trwy neges testun – anfonwch MOREMEADOWS i 70085 i gyfrannu £5. Bydd hyn yn rhoi £5 i Apêl Gwneud Mwy o Ddolydd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ynghyd â’ch neges gyfradd safonol.
- Ar-lein – Gallwch gyfrannu ar ein tudalen apêl trwy glicio ar y ddolen isod: www.justgiving.com/campaign/makemoremeadows.