Beth am gael Parti Pâl i helpu i ddiogelu Arfordir Penfro ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol?

Rhwng 1af Gorffennaf a 31ain Gorffennaf, rydym angen eich help i ddathlu ein pumed penblwydd. Cynhaliwch barti te, arwerthiant cacennau neu fore coffi gyda’ch ffrindiau, teulu, cymuned leol neu fusnes i’n helpu i wneud gwahaniaeth ledled Sir Benfro.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cofrestru, a byddwch yn gallu manteisio ar amrywiaeth o adnoddau Parti Pâl fydd yn gwneud eich parti yn arbennig iawn.

Mae adnoddau yn cynnwys:

  • Templedi poster
  • Templedi gwahoddiad
  • Baneri argraffadwy
  • Capiau cacennau argraffadwy
  • Cwis Parti Pâl
  • Cardiau rysáit

Mae pob rhodd yn ein helpu i ddiogelu ein Parc Cenedlaethol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.  I ddarganfod mwy am ein heffaith, cliciwch yma: Adroddiad Effaith

 

ca

Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi gyfrannu gan gynnwys:

  • Sefydlwch dudalen Just Giving yma: Puffin Party – JustGiving
  • Trosglwyddo drwy BACS: Cyfeirnod – Enw Llawn, Parti Pal | Rhif y cyfrif: 32494668 | Cod Didoli: 301620
  • Anfonwch siec i: Ymddiriedolaeth Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY.Cofiwch gynnwys eich enw llawn, cyfeiriad a rhif ffôn cyswllt.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch a Katie neu Georgia: support@pembrokeshirecoasttrust.wales / 01646 624811

 

Ni all Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro dderbyn atebolrwydd am unrhyw golled, difrod neu anaf a ddioddefir gennych chi neu unrhyw un arall o ganlyniad i gymryd rhan mewn digwyddiad codi arian a drefnwyd er budd Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro. Mae’n arfer gorau llenwi ffurflen asesu risg i ddangos eich bod wedi ystyried a lliniaru unrhyw risgiau posibl yn ymwneud â’ch digwyddiad, ond nid yw’n ofyniad cyfreithiol oni bai bod y trefnydd yn gyflogwr. Mae hyn yn hollbwysig. Byddwch yn ofalus iawn wrth drin bwyd a gweithiwch i reolau sylfaenol ar baratoi, storio, arddangos a choginio yn ddiogel. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn rhoi canllawiau ar gyfer paratoi, trin a choginio bwyd. Os ydych yn defnyddio arlwywr, bydd angen i chi sicrhau bod gan yr arlwywr dystysgrif hylendid bwyd ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.

Cofrestrwch eich Parti Pâl